Rhoi'r Gorau I Ysmygu

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Effeithiau ysmygu ar iechyd  

Ysmygu yw un o'r prif achosion o ran marwolaethau y gellir eu hosgoi yn y DU a dyma'r prif achos o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae mwy na 5,000 o bobl, tua 1 o bob 6 o'r holl farwolaethau ymysg pobl dros 35 oed, yn marw o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag ysmygu bob blwyddyn yng Nghymru. 

Mae ysmygu yn cael sawl effaith negyddol ddifrifol ar iechyd eich corff, ac yn aml mae'n effeithio ar gylchrediad y gwaed, calon, ymennydd, stumog, ysgyfaint, ceg a llwnc, croen, esgyrn, atgenhedliad a ffrwythlondeb. Bydd pob 15 sigarét rydych yn ei hysmygu yn achosi mwtaniad yn eich corff – mwtadiadau yw sut mae canserau'n dechrau.  

Sut y galla i roi'r gorau i ysmygu?  

Mae llawer o ddulliau y gallwch eu defnyddio os ydych yn ceisio rhoi'r gorau i ysmygu ac mae'n bwysig cofio bod y broses hon yn wahanol i bawb.  Ceisiwch ddod o hyd i ddull neu ffynhonnell cymorth sy'n gweithio i chi.   

10 awgrym hunangymorth i roi'r gorau i ysmygu:  

  1. Gwnewch gynllun clir i roi'r gorau i ysmygu  
  2. Credwch ynoch eich hun a meddyliwch yn gadarnhaol 
  3. Nodwch yr hyn sy'n codi chwant arnoch i ysmygu 
  4. Meddyliwch am eich deiet a sut mae hyn yn effeithio ar eich arferion ysmygu
  5. Gwnewch ffrindiau â phobl nad ydynt yn ysmygu 
  6. Rhowch ystyriaeth i'r hyn rydych yn ei yfed a sut y gallai hyn effeithio ar eich chwant am sigarét 
  7. Cynyddwch eich lefelau gweithgarwch corfforol  
  8. Cadwch eich dwylo a'ch ceg yn brysur  
  9. Gwnewch restr i chi'ch hun o'r rhesymau yr ydych am roi'r gorau iddi 
  10. Ceisiwch gymorth ar roi'r gorau i ysmygu  

Gwasanaethau Cymorth sydd ar gael  

  • Gwnewch apwyntiad gyda'ch meddyg teulu 
  • Dewch o hyd i sesiwn rhoi'r gorau i smygu un-i-un neu grŵp lleol 
  • Cysylltwch ag ymgynghorydd rhoi'r gorau i ysmygu  
  • Cysylltwch â llinell gymorth Helpa fi i Stopio Cymru drwy ffonio 0800 085 2219 
  • Ffoniwch linell gymorth NHS Smokefree ar 0300 123 1044
  • Gweler Gwefan Helpa fi i Stopio GIG Cymru 
  • Gweler cymorth Nicorette ynghylch Paratoi i roi'r gorau i ysmygu 
  • I gael rhagor o gymorth, gweler ein tudalen Adnoddau a Chymorth Allanol 

Iechyd a Llesiant