Cadw'r Meddwl Yn Weithgar

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Mae cadw eich meddwl yn weithgar yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal iechyd a llesiant da yn gyffredinol.  Mae dysgu parhaus drwy fywyd yn gwella hunan-barch ac yn annog rhyngweithio cymdeithasol a bywyd mwy egnïol. Mae'r ymarfer o osod nodau, sy'n gysylltiedig â dysgu oedolion, wedi cael ei chysylltu'n gryf â lefelau llesiant uwch. 

Er bod llawer ohonom yn byw bywydau prysur, mae'n bwysig ceisio neilltuo amser i'ch hunan i ganolbwyntio ar gadw eich meddwl yn iach ac yn weithgar.  Ceisiwch ddiffodd dyfeisiau electronig bob hyn a hyn ac yna cael hoe o'r teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig i chi ymlacio a pheidio â meddwl am unrhyw bryderon neu bwysau yn eich bywyd a chanolbwyntio ar y foment bresennol.  

Mae nifer o weithgareddau y gallech eu gwneud i gadw eich meddwl yn weithgar ac i'ch helpu i ymlacio. Beth am roi cynnig ar y canlynol:  

  • Dysgu/ailddysgu sut i chwarae offeryn. Chwiliwch am ddosbarth neu diwtor lleol neu rhowch gynnig ar gwrs ar-lein os byddai'n well gennych.  
  • Gwneud jig-so neu liwioGwnewch y jig-so rydych wedi bod yn bwriadu ei wneud, ewch ati i gwblhau posau sudoku, rhowch gynnig ar groesair neu prynwch lyfr lliwio i'ch hun. 
  • Chwarae gemau gyda'ch teulu neu'ch ffrindiauMae gwyddbwyll, gemau cardiau, Pictionary, hyd yn oed Monopoly neu Cluedo yn rhoi her feddyliol. 
  • Rhoi cynnig ar grefft newydd. Er enghraifft gwau, paentio, lluniadu neu DIY. 
  • Cofrestru ar gyfer cwrs. Mae digon o ddewis gan gynnwys gweminarau, cyrsiau byr, dosbarthiadau dysgu iaith a choginio gyda'r nos a HND ar-lein.  
  • Dysgu am natur. Tra byddwch allan yn cerdded neu'n loncian, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i fynd heibio i wrychoedd, caeau a choetiroedd neu efallai fod gennych natur yn eich gardd. Mae gan Sir Gaerfyrddin lawer o leoliadau gwych i ddysgu am y planhigion cyffredin, y gloÿnnod byw a'r adar o'n cwmpas.  
  • Darllen neu wrando ar gylchgrawn neu lyfr. Mae gan lyfrgell Caerfyrddin lawer o ddeunyddiau gan gynnwys cylchgronau a llyfrau, y gall aelodau o'r llyfrgell eu defnyddio am ddim.  
  • Gwrando ar gerddoriaeth. Ewch ati i ailddarganfod eich hoff albymau neu ddarganfod cerddoriaeth newydd a neilltuwch amser bob dydd i fwynhau hyn mewn llonydd.  

Efallai y byddwch hefyd am ddal i fyny ag unrhyw adnoddau e-ddysgu nad ydych chi wedi eu cwblhau eto neu ddysgu sgiliau newydd.  Edrychwch ar y tudalennau Dysgu a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael. 

Gall cael meddwl iach a gweithgar hefyd helpu pan fyddwn yn delio â sefyllfa neu ddigwyddiad anodd neu heriol yn ein bywydau.  Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar ein tudalen Cadernid Personol am sut y gallwn ddod yn fwy cydnerth a defnyddio ein meddyliau i'n helpu drwy gyfnodau anodd.  

Iechyd a Llesiant