Niwroamrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 15/04/2024

Beth yw Niwroamrywiaeth?

“Wrth wraidd niwroamrywiaeth y mae'r syniad nad gwendidau yw gwahaniaethau unigol,

ond bod cymdeithas yn gosod disgwyliadau yn seiliedig ar boblogaeth niwronodweddiadol fwyafrifol.

Pan nad yw hyn yn cael ei fodloni, gall arwain at heriau.” Y Coleg Nyrsio Brenhinol.

“Rydyn ni i gyd yn niwroamrywiol ond nid ydyn ni i gyd yn niwrowahanol.” Dyslexia UK.

Mae'r gair niwroamrywiaeth yn cyfeirio at "amrywiaeth pawb, ond caiff ei ddefnyddio'n aml yng nghyd-destun anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, yn ogystal â chyflyrau niwrolegol neu ddatblygiadol eraill megis Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Canolbwyntio neu anableddau dysgu.”

Mae'r mudiad niwroamrywiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd galluogi pobl â meddyliau gwahanol yn niwrolegol i gael eu derbyn drostynt eu hunain, trwy ddarganfod a dathlu eu cryfderau a thrwy fod y gymdeithas yn gwerthfawrogi eu gwahaniaethau. Mae pobl yn profi ac yn rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas mewn sawl ffordd wahanol; nid oes un ffordd "iawn" o feddwl, dysgu ac ymddwyn.

Er bod gan bawb brosesau gwahanol ar gyfer delio â gwaith a sefyllfaoedd bob dydd, mae'n werth nodi bod pobl sy'n niwroamrywiol yn cael anhawster gyda llawer o agweddau ar fywyd bob dydd y byddai'r rhan fwyaf o bobl niwronodweddiadol yn gallu delio â nhw'n haws. Felly, mae addysg, addasiadau a dealltwriaeth am niwroamrywiaeth yn angenrheidiol er mwyn gwneud bywyd gwaith bob dydd i berson niwroamrywiol yn fwy hygyrch a chysurus.

Mae'r holl wybodaeth wedi'i thargedu at oedolion â niwroamrywiaeth yn unig. Ni fydd yr holl wybodaeth a roddir yn rhoi diagnosis  clir ychwaith ond bydd yn eich helpu i ddeall mwy am niwroamrywiaeth. Os ydych chi'n amau eich bod yn niwrowahanol, siaradwch â'ch meddyg teulu.

 

 

 

I think should be just diagnosis as even reading up on something and carrying out on line tests does not mean you have a condition - physical, mental or neuropdiverse.  [CE1]

Iechyd a Llesiant