Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen: 18/09/2023

Rydym yn cydnabod bod heriau ac anawsterau efallai'n codi wrth weithio yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Felly rydym wedi paratoi adnodd i gefnogi eich llesiant yn ystod y cyfnod hwn ac yn y tymor hir. 

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch neu os hoffech gael sgwrs â rhywun am eich teimladau, rydym yn eich annog i siarad â'ch rheolwr yn gyntaf. Efallai fydd eich rheolwr yn eich cyfeirio at Iechyd Galwedigaethol, os yw hynny'n berthnasol. 

Mae hefyd cyngor a chefnogaeth gyffredinol am iechyd a llesiant yn ogystal ag ystod eang o wybodaeth ac arweiniad ar gael ar fewnrwyd y Cyngor.  

Os byddai'n well gennych siarad â rhywun yn allanol neu ar unwaith, cysylltwch ag un o'r gwasanaethau cymorth canlynol sy'n arbenigo mewn darparu cymorth i'r rhai sy'n gweithio yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Gellir dod o hyd i wasanaethau cymorth mwy cyffredinol ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth 

Iechyd a Llesiant