Cyllid a Thaliadau

Diweddarwyd y dudalen: 14/01/2024

System Rheolaeth Ariannol - U4BW

System Rheolaeth Ariannol - U4BW

Unit 4 Business World On! (U4BW) yw system rheolaeth ariannol yr Awdurdod a elwid gynt yn Agresso.

Ar hyn o bryd, mae mwy na 1,900 o ddefnyddwyr gweithredol. Mae cytundebau wedi'u sefydlu gyda chleientiaid allanol megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. U4BW yw'r system rheoli ariannol a ddewiswyd ganddynt, ac maent yn elwa ar ddefnydd llawn o'r system gyda chymorth yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Chyfrifon sy'n Daladwy

Chyfrifon sy'n Daladwy

Rhennir y tîm cyfrifon taladwy yn ddwy adran: P2P (Prynu i Dalu) a chyfrifon sy'n daladwy

 

Treuliau sy'n gysylltiedig â'r gwaith

Os bydd unrhyw gostau'n dod i'ch rhan o achos y gwaith, mae'n bosibl y byddwch yn gallu eu hawlio'n ôl. Mae manylion llawn am y costau sy'n gymwys a faint y gallwch ei hawlio fel treuliau ar gael yn y polisi ynghylch costau teithio a chynhaliaeth. Mae'n rhaid ichi gydymffurfio â'r polisi hwn wrth gyflwyno eich hawliad. Gellir hawlio unrhyw ordaliadau'n ôl ac ystyrir cyflwyno hawliadau ffug yn achos o gamymddwyn difrifol.

Llawlyfr y Gyllideb: Canllawiau ar gyfer rheoli cyllideb yn effeithiol

Llawlyfr y Gyllideb: Canllawiau ar gyfer rheoli cyllideb yn effeithiol

Mae rheoli ariannol da a chadarn yn fater o stiwardiaeth briodol o arian cyhoeddus. Er mwyn sicrhau y bydd hyn yn digwydd, rhaid i ni:

  • ddefnyddio adnoddau’n effeithiol i ddarparu ein gwasanaethau;
  • osgoi gorwariant oherwydd aneffeithlonrwydd a gwastraff; a
  • sicrhau na cheir unrhyw danwariant ‘diangen’.

Os ydych yn rheoli cyllideb, mae’n rhaid darllen y llawlyfr. Bydd yn eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau ac mae’n nodi’n glir yr egwyddorion y mae’n rhaid ichi gydymffurfio â hwy.

Mae'r broses ar gyfer Trosglwyddiadau Mewnol yn newid

Mae'r broses ar gyfer Trosglwyddiadau Mewnol yn newid

Mae'r system bresennol ar gyfer Trosglwyddiadau Mewnol yn dod i ben yn raddol rhwng nawr a mis Rhagfyr gan nad yw'n cydweddu ag Office 365. Mae adeiniau cyfrifeg yn cysylltu â Rheolwyr Cyllideb i drafod lleihau'r angen am Drosglwyddiadau Mewnol a/neu drefnu prosesau mwy effeithlon ar gyfer delio â'r trafodiadau hyn. Os ydych yn creu Trosglwyddiadau Mewnol, gofynnir ichi gysylltu â'ch Rheolwr Cyllideb i sicrhau bod y drafodaeth hon yn digwydd.

Os bydd angen Trosglwyddiad Mewnol yn y dyfodol ac na ellir ei wneud drwy ddulliau eraill, mae proses arall yn cael ei threfnu. Bydd canllawiau ar gyfer y broses hon ar gael cyn bo hir.