Rheoli Perfformiad

Diweddarwyd y dudalen: 11/05/2023

Y Fframwaith Rheoli Perfformiad

Mae'r fframwaith hwn yn nodi dull y Cyngor o fonitro a rheoli perfformiad gwasanaethau'r Cyngor. Nod y Fframwaith Rheoli Perfformiad hwn yw cadw'r Cyngor ar y trywydd iawn a chanolbwyntio ar gyflawni ei flaenoriaethau allweddol, drwy roi'r wybodaeth a'r offer sydd eu hangen ar gynghorwyr, rheolwyr a staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n perfformio'n dda sy'n helpu i sicrhau canlyniadau da i breswylwyr.

Mae'n bwysicach nag erioed bod y Cyngor yn gwybod bod yr hyn a wariwn a'r hyn a wnawn yn cael effaith ar ganlyniadau, a'n bod yn gwybod ac yn rheoli ein busnes yn gynaliadwy, yn effeithiol, ar y cyd ac ar lefel gwasanaeth.

Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’n golygu bod rhaid i ni wneud ein gwaith mewn ffordd gynaliadwy, a meddwl am yr effaith gall ein gwaith gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Rhaid i ni weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i:

  • gydweithio’n well
  • cynnwys pobl, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau
  • edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
  • cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu pum ffordd allweddol o weithio wrth iddynt wneud penderfyniadau yn y dyfodol: edrych i’r tymor hir; gweithio mewn ffordd integredig; cynnwys amrywiaeth eang o’r boblogaeth; cydweithio gydag eraill; a deall gwraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd.

Strategaeth Gorfforaethol 2022 - 2027 (gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant)

Mae strategaeth 2022 - 2027 yn amlinellu cyfeiriad yr Awdurdod Lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ein hamcanion llesiant a gwelliant fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth. Mae'n nodi ein cyfeiriad o teithio a blaenoriaethau fel sefydliad.

Mae'r strategaeth yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol mewn 4 amcan llesiant -

1. Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)
2. Galluogi ein preswylwyr i fyw ac heneiddio'n dda (Byw ac Oedi'n Dda)
3. Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus (Cymunedau Llewyrchus)
4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor)

Caiff yr holl gamau gweithredu a'r targedau yn y cynllun eu monitro trwy gydol y flwyddyn trwy gyfrwng Dangosfwrdd PIMS, ac adroddir amdanynt bob chwarter.

Cyfle i chi farnu sut y mae'ch gwasanaeth yn ei wneud a sut yr ydych chi'n cyfrannu.....

Pam mae angen Cynlluniau Busnes arnom?

Mae Cynlluniau Busnes yn rhan hanfodol o'r fframwaith cynllunio.  Maent yn helpu i drosi amcanion strategol yn amcanion gwasanaeth ac yna, yn dargedau staff unigol – gan alluogi timau i fynd ati i gyflawni'r gwaith.

Maent yn cynnig ffordd agored a thryloyw o ddangos i reolwyr, staff a Chynghorwyr yr hyn i'w gyflawni a'r cynllun er mwyn gwneud hynny.  Maent yn dangos sut y defnyddir adnoddau er mwyn cyflawni amcanion a'r gwelliannau i'r gwasanaeth y disgwylir eu cyflawni.  Maent yn helpu i gynnwys staff yn y broses o ddatblygu'r gwasanaeth.  Maent yn caniatáu cyfraniadau gan bawb er mwyn gwella perfformiad – gan sicrhau bod nodau a thargedau'n realistig.  Maent yn dangos yr hyn a gawn o'r hyn yr ydym yn ei wario.

Mae copi o'ch Cynllun Busnes ar gael gan eich Rheolwr Llinell.

ARFARNIADAU  - Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd

ARFARNIADAU - Cydnabod. Tyfu. Gyda'n gilydd

Ein dull arfarnu newydd!  

Mae hon yn athroniaeth newydd o ran sut rydym yn cynnal arfarniadau, gan ddefnyddio dull sy'n 'seiliedig ar gryfderau': 

Adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio er mwyn i ni allu gwneud mwy ohono 

Symud o'r hyn sydd o'i le, i'r hyn sy'n gadarn