Ystafelloedd Cyfarfodydd

Diweddarwyd y dudalen: 06/03/2024

Mae gennym ystafelloedd cyfarfod/hyfforddiant yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Llandeilo, Rhydaman, Sanclêr, Castellnewydd Emlyn, Llyn Llech Owain a Pembre. Porwch drwy ein hystafelloedd cyfarfod ym mhob lleoliad am ragor o wybodaeth ynglŷn â'u maint a'u cyfleusterau.

Sut mae archebu ystafell

Defnyddir OccupEye i archebu ystafelloedd. Gallwch weld beth sydd ar gael a threfnu eich cyfarfod yn gyflym ac yn hwylus. 

Yr unig gyfleusterau cyfarfod na ellir eu harchebu drwy ddefnyddio’r dull hwn yw’r ystafelloedd canlynol yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin:-

  • Siambr y Cyngor
  • Ystafell Bwyllgor 1 (Cyn ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Llawr Cyntaf)
  • Ystafell Bwyllgor 2 (Cyn ystafell gyfarfod Adfywio, Llawr Cyntaf)
  • Ystafell Bwyllgor 3, Llawr gwaelod
  • Ystafell Bwyllgor 4, Llawr gwaelod
  • Ystafell Bwyllgor 5, Llawr gwaelod

Gofynnir ichi archebu’r rhain drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Uned Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gofynion aelodau etholedig yn cael blaenoriaeth.

Mewn rhai adeiladau lle darperir yr ystafelloedd cyfarfod yn fasnachol, fe fydd archebion masnachol yn cael blaenoriaeth bob amser.

Lle bo'n bosibl, defnyddiwch ystafelloedd sy'n gweddu o ran maint i'r niferoedd a fydd yn bresennol. Cofiwch hefyd fod gan y rhan fwyaf o ystafelloedd gysylltiadau TG a cheir cyfarpar cyfrifiadurol mewn rhai ohonynt, felly mae modd eu harchebu ar gyfer gweithio ystwyth fel nad oes angen teithio’n ôl i'r man gweithio arferol pan fyddwch yn gweithio y tu hwnt i'ch swyddfa.

 

Sut i ganslo ystafell

Os oes angen canslo cyfarfod cofiwch wneud hyn drwy OccupEye. Bydd hyn yn hysbysu gweinyddwr yr ystafell yn ogystal â'r mynychwyr eraill i gyd. Trwy wneud hyn bydd modd i'r ystafell fod ar gael i eraill ei defnyddio.