Gweithio i ni

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2024

Rydym yn falch o'ch croesawu i Cyngor Sir Gaerfyrddin (CCC). Rydych wedi ymuno â Chyngor rhagweithiol sy'n perfformio'n dda, sy'n ceisio darparu gwasanaethau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau fod Sir Gaerfyrddin yn lle gwell i fyw, i weithio ac i fwynhau eich amser hamdden.

Rydym yn cydnabod bod ein gallu i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar ymrwymiad ac ymroddiad ein staff a'n nod yw darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ar bob cam o'ch gyrfa yn ogystal â pha wobrwyon staff y gallwch eu cael.

Edrychwch ar y tudalennau isod i ddarganfod sut y gallwn ni eich cefnogi chi.