Cefnogi achosion

Diweddarwyd y dudalen: 06/10/2023

Hoffem glywed beth rydych chi’n ei wneud i gefnogi elusen neu achos sy'n agos at eich calon.

Os ydych yn codi arian rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at marchnatacyfryngau@sirgar.gov.uk

Y Tîm Dysgu a Datblygu - Ymchwil Canser

Enw: Y Tîm Dysgu a Datblygu

Adran: Prif Weithredwr

Elusen: Ymchwil Canser

Beth: Ar hyn o bryd mae 16 ohonom yn herio ein hunain i gerdded, rhedeg neu loncian 1600 milltir

Pryd: Trwy gydol mis Ebrill

Pam: Yn anffodus, mae canser wedi effeithio arnom ni i gyd mewn rhyw siâp neu ffurf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond credwn drwy weithio gyda'n gilydd, y bydd pob cam a gymerwn yn dod â ni'n agosach at ein nod o gael effaith gadarnhaol ar fywydau'r rhai mewn angen.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma

 

Leanne McFarland - Cymdeithas Alzheimer

Enw: Leanne McFarland

Adran: Cymunedau

Elusen: Cymdeithas Alzheimer

Beth: Marathon Ultra Sant Illtud (ras aml-dir 32 milltir)

Pryd: 5 Mai 2024

Pam: Roeddwn yn gyfeillachwr ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer gan ymweld â menyw oedd â dementia, a hynny am sawl blwyddyn hyd nes iddi farw yn ddiweddar o'r salwch creulon hwn. Gwelais â'm llygaid fy hun sut mae dementia a chlefyd Alzheimer yn effeithio ar deuluoedd. Felly, rwy'n cymryd rhan yn fy Marathon Ultra cyntaf i godi arian ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, sy'n darparu cymorth a chefnogaeth hanfodol i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Mae'r gymdeithas hefyd yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol drwy ymgyrchu i wneud dementia y flaenoriaeth y dylai fod ac ariannu gwaith ymchwil arloesol.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma

Cathie Newman - Prostate Cancer UK

Enw: Cathie Newman

Adran: Yr Adran Cymunedau

Elusen: Prostate Cancer UK

Beth: Marathon Brighton

Pryd: 7 Ebrill 2024.

Pam: Cafodd fy ngŵr ddiagnosis o ganser datblygedig y prostad gyda chanser esgyrn helaeth ym mis Mai 2020 ac mae wedi bod yn ymladd yn erbyn y clefyd ers hynny. 

Rwy'n rhedeg Marathon Brighton ym mis Ebrill 2024 i godi arian ar gyfer yr achos hwn. 

Mae gan Prostate Cancer UK uchelgais syml - atal dynion rhag marw o ganser y prostad. Drwy symud canolbwynt y wyddoniaeth dros y 10 mlynedd nesaf i welliannau radical mewn diagnosis, triniaeth, atal, a chymorth, y gobaith yw y bydd ymchwil yn atal canser y prostad rhag lladd dynion.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma