Mapping (GIS)

Diweddarwyd y dudalen: 09/05/2023

Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol yn system gyfrifiadurol sy’n gallu cipio, rheoli, dadansoddi a dangos pob math o wybodaeth sydd â chyfeiriad daearyddol – h.y. data sydd wedi’i nodi yn ôl lleoliad.

Mae gennym lawer o ddata sy’n cynnwys cyfeiriad lleoliad sy’n gosod y data hwnnw ar bwynt ar fap megis:

  • cyfeirnod grid
  •  cyfeiriad
  • côd post

Mae data megis lleoliad goleuadau stryd, ffiniau wardiau, neu lwybrau lorïau sbwriel yn gallu cael eu dangos yn y GIS yn ôl eu safle yn y byd go iawn, a’u gweld ar sylfaen map Arolwg Ordnans neu eu dadansoddi ymhellach gan ddefnyddio mapio thematig. Mae cyflwyno data yn y ffordd hon yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o’r data sydd gennym.

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r tîm GIS yn rheoli ac yn cynnal a chadw’r gronfa ddata cyfeiriadau gorfforaethol - Rhestr Tir ac Eiddo Lleol.

Hefyd rydym yn rheoli ac yn diweddaru’r mapiau a’r data wefan y Cyngor / Geodiscoverer a  Mapinfo. Os oes gennych chi ddata yr hoffech ei ddangos ar y mapiau hyn a fyddai’n ddefnyddiol i’r cyhoedd neu at ddefnydd mewnol gan aelodau o staff, neu os oes gennych ddiweddariad/newid i’ch cynnwys, rhowch wybod inni.

Gallwn roi cyngor ynghylch:

Cwrdd â’r tîm

Swyddog Gwybodaeth Cynorthwyol

Julia Harries

E-bost: JAHarries@sirgar.gov.uk
Ffôn: 4497

Swyddog Cymorth Gwybodaeth

Huw Lodwick

E-bost: HRLodwick@sirgar.gov.uk
Ffôn: 4496