Llywodraethu Gwybodaeth
Rheoli cofnodion a dogfennau
Os oes gennych gofnodion nad ydynt bellach yn gyfredol ond bod angen eu cadw am gyfnod penodol o amser am resymau busnes neu reoleiddio, gallwch eu rhoi yn yr Uned Rheoli Cofnodion (RMU). Darganfyddwch am ba mor hir y mae angen i chi gadw cofnodion a cheisiwch gyngor proffesiynol am sut i gadw cofnodion a rheoli dogfennau.
Diogelu Data - Beth sydd angen i chi ei wybod?
Mae achosion proffil uchel o dorri diogeledd wedi cynyddu pryder y cyhoedd ynglŷn â thrin gwybodaeth bersonol. Mae 80% o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â diogeledd yn cynnwys staff felly mae'n amlwg bod angen i bawb fod â dealltwriaeth sylfaenol o dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth Diogelu Data. Darganfyddwch yr 6 egwyddor diogelu data a'ch rôl chi yn y gwaith o ddiogelu data.
Defnyddio Cynllun Ffeiliau’r Cyngor
Cynllun Ffeiliau'r Cyngor yw'r brif ardal storio ar gyfer cofnodion nad ydynt yn cael eu cadw mewn cymwysiadau cefn swyddfa megis Information@Work a Care First. Mae wedi disodli gyriannau ar y cyd a defnyddio ffolderi personol ar gyfer negeseuon e-bost. Mae Cynllun Ffeiliau'r Cyngor yn ei gwneud yn haws cydweithio, gallwch rannu dogfennau gwaith â chydweithwyr yn ddidrafferth heb orfod anfon ffeiliau mawr trwy e-bost. Mae'n amgylchedd diogel ar ein gweinyddion ein hunain, dim ond pobl sydd â'r caniatâd cywir fydd yn gallu cael mynediad i'ch ffeiliau/ffolderi. Gallwch hefyd newid y gosodiadau hyn o fynediad llawn i ddarllen yn unig.
Rheoli eich mewnflwch
Cofiwch fod eich negeseuon e-bost hefyd yn rhan o'r data yr ydym yn ei gadw ac y gall fod yn agored i'w ddatgelu. Mae'n bwysig eich bod yn deall sut i reoli eich cyfrif e-bost yn briodol. Cynghorion defnyddiol ynglŷn â sut i gadw eich mewnflwch mewn trefn a sut/pryd i gadw negeseuon e-bost yng Nghynllun Ffeiliau'r Cyngor.
Diweddarwyd y dudalen: 01/03/2023 11:04:13