OneDrive

Diweddarwyd y dudalen: 07/04/2021

Beth yw Microsoft OneDrive?
Mae OneDrive yn rhan o gyfres o gynhyrchion Office 365, mae'n darparu storfa ar-lein ac all-lein ar gyfer dogfennau cysylltiedig â gwaith ac ni ddylid ei defnyddio i storio ffeiliau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith. Dim ond chi sydd â mynediad i'r man storio hwn.

Swyddogaethau OneDrive

  • Gweithio'n hyblyg – Er mai dim ond ar eich cyfrifiadur/gliniadur oedd modd cyrchu dogfennau ar y Gyriant U yn draddodiadol, mae data OneDrive ar gael o unrhyw ddyfais gorfforaethol sy'n golygu, os oes gennych ddyfais symudol neu lechen Apple neu Android corfforaethol, gallwch weld a gweithio ar eich dogfennau unrhyw le.
  • Cydweithio - Gallwch rannu a chydweithio ar ddogfennau gyda defnyddwyr yn uniongyrchol o'ch cyfrif OneDrive. Lle y byddech yn draddodiadol wedi gorfod symud y ffeil i ffolder a rennir ar Gynllun Ffeiliau'r Cyngor neu ei hanfon ar e-bost at gydweithiwr.
  • Cadw eich data'n ddiogel - Bydd awtogadw a hanes fersiynau wedi'u galluogi ar gyfer unrhyw ddogfennau Microsoft a gedwir ar OneDrive, sy'n golygu na oes yn rhaid i chi boeni am gadw dogfen a gallwch adfer dogfennau o fersiynau lluosog fel sy'n gyfleus i chi.

Beth yw Known Folder Move?

Mae Known Folder Move yn eich galluogi chi i gael mynediad i'ch Bwrdd Gwaith, ffolderi Dogfennau a Lluniau ar unrhyw ddyfais corfforaethol (neu Dewch â'ch Dyfais eich Hun).

Dyma ganllawiau pellach ar ddefnyddio OneDrive.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG. (https://ictselfservice.carmarthenshire.gov.wales)