Rhyddid Gwybodaeth

Diweddarwyd y dudalen: 06/11/2023

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA) yn rhoi hawl gyffredinol ichi gael gweld gwybodaeth a gofnodwyd gan awdurdodau cyhoeddus, megis Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae gwybodaeth gofnodedig yn cynnwys gwybodaeth a gedwir yn electronig neu ar bapur megis llythyron, adroddiadau, e-byst a hyd yn oed nodiadau a ysgrifennwyd â llaw. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau ac ystod o ffurfiau eraill.

Mae ceisiadau gan bobl am wybodaeth bersonol am eu hunain yn cael eu hymdrin ar wahân o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Sut y cyflwynir ceisiadau?

Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth. Rhaid cyflwyno cais i'r Cyngor yn ysgrifenedig gan gynnwys enw a chyfeiriad er mwyn ymateb iddo. (Gellir gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol ar lafar.)

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy e-bost, drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy ysgrifennu llythyr.

Fodd bynnag, gall ceisiadau gyrraedd unrhyw le yn y Cyngor ac mae hyn yn digwydd.  Er enghraifft, maent yn cael eu cynnwys mewn llythyron cwyno weithiau, neu mewn gohebiaeth lle mae'n bosibl na fydd y cais hyd yn oed yn cyfeirio at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ar ôl inni gael cais (ac, os bydd angen, rhagor o eglurhad i'n galluogi i chwilio am y wybodaeth y gofynnwyd amdani) mae'n ofynnol inni ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith

Beth y dylwn ei wneud os caf i gais?

Nid oes angen ymdrin â cheisiadau am eitemau megis taflenni, llyfrynnau a chyhoeddiadau eraill yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Hefyd dylid ymdrin â cheisiadau sy'n gofyn cwestiynau megis "a fyddech chi cystal ag esbonio eich penderfyniad i…” fel gohebiaeth arferol.

Fodd bynnag, os cewch chi gais am wybodaeth gofnodedig, yn enwedig os yw hi'n ymddangos na ddylai'r wybodaeth honno gael ei datgelu, neu os oes gennych unrhyw amheuon, cyfeiriwch y mater ar unwaith at:

Y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth a Chwynion
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

Ffôn: 01267 224498
E-bost: foia@sirgar.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen Rhyddid Gwybodaeth ar wefan y Cyngor.