Caffael

Diweddarwyd y dudalen: 05/10/2023

Rydym yn gwario dros £311 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith, a gwasanaethau, a chaiff hyn effaith sylweddol ar ansawdd bywyd y gymuned. Mae'n hanfodol ein bod ni yn meithrin ymagwedd strategol at gaffael er mwyn sicrhau bod nwyddau, gwaith, a gwasanaethau yn cael eu caffael mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

Mae gennym ymagwedd ddatganoledig at bwrcasu, sy'n golygu bod gweithgareddau pwrcasu pob un o’n bum adran yn gyfrifoldeb uniongyrchol i ddeiliaid cyllideb unigol, sy'n gallu archebu a thendro am gontractau.

Rôl yr Uned yw sicrhau bod Swyddogion Arweiniol yr Adrannau yn cael y cymorth a'r arweiniad priodol i gaffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau mewn modd proffesiynol.  Mae'r holl weithgarwch caffael yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau, rheolau a'r rheoliadau perthnasol i sicrhau ein bod ni’n cael y gwerth gorau am arian bob amser a gwneir hyn mewn modd agored a thryloyw nad yw'n gwahaniaethu.

Ar gyfer pryniannau o dan £25,000 gofynnir swyddogion i ‘Meddyliwch Sir Gâr Gyntaf!’ wrth geisio dyfyniadau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y trefniadau a grybwyllir uchod. Felly, archwiliwch y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu.

I'ch atgoffa, mae'r broses y dylid ei dilyn wrth geisio dyfynbrisiau fel a ganlyn,

  1. Ar gyfer Pryniannau gwerth hyd at £10,000 mae ein gweithdrefn Contract yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion 'fod yn fodlon bod y gwerth gorau am arian wedi'i sicrhau, a bod gofal rhesymol wedi'i gymryd i gael nwyddau, gwaith neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol.'
  2. Ar gyfer Pryniannau rhwng £10,000 a £25,000 'dylid ceisio o leiaf 3 dyfynbris o ffynonellau cystadleuol a'u cadarnhau'n ysgrifenedig, drwy lythyr, ffacs neu e-bost.
  3. Mae Mynegiant o Ddiddordeb yn ofynnol i ofyn am unrhyw gymorth i gynnal ymarfer caffael sy'n fwy na £25,000

 

Strategaeth Gaffael

Strategaeth Gaffael

Mae Strategaeth Gaffael y Cyngor ar gyfer 2023-2028 yn cefnogi dyheadau Datganiad Gweledigaeth y Cabinet. Drwy ein Blaenoriaethau Strategol, ein nod yw cefnogi busnesau lleol a thwf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a chyflawni ein haddewid i fod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030. 

Mae newidiadau cyfreithiol sylweddol i ddod gan fod Cydsyniad Brenhinol yn cael ei roi i Fil Caffael y DU ym mis Hydref 2023. Bydd y Ddeddf Caffael yn disodli'r rheolau caffael sydd ar hyn o bryd yn rheoleiddio'r ffordd caiff contractau cyhoeddus eu caffael. Yn sgil y Ddeddf newydd hon ceir system symlach, hyblyg a mwy tryloyw, fel y gellir canolbwyntio mwy ar werth cymdeithasol a helpu i leihau rhwystrau i fusnesau llai a mentrau cymdeithasol. Bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn berthnasol hyd nes daw'r drefn newydd i rym, a rhagwelir y digwydd hynny ym mis Hydref 2024.

Mae ein strategaeth yn cefnogi'r diwygio hwn o ran caffael ac yn amlinellu sut y bydd gweithgareddau caffael y Cyngor yn parhau i gyfrannu at gyflawni amcanion y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau - Medi 2023

Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau - Medi 2023

Mae'r Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau yn gosod rheolau clir o ran caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith, fel bod modd inni gael y gwerth gorau am arian ac, ar yr un pryd, sicrhau system o fod yn agored a thryloyw ac o beidio â gwahaniaethu.

Mae Rheolau'r Weithdrefn Contractau wedi cael eu diweddaru er mwyn cymryd i ystyriaeth nifer o argymhellion Adroddiad Gorchwyl a Gorffen ar drefniadau a fframweithiau caffael o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd adran Canllawiau Caffael newydd yn cael ei hychwanegu at y fewnrwyd yn fuan i'ch helpu i ddeall y rheolau a'r gweithdrefnau sydd yn rhaid eu dilyn wrth brynu nwyddau, gwasanaethau a Gwaith.

Dull Rheoli Categoriau

Dull Rheoli Categoriau

Ers 2017, mae ein swyddogion caffael wedi bod yn gweithio i leihau dyblygu a nodi’r meysydd lle y ceir cyfleoedd i gyflawni arbedion ariannol.

Mae gan y Tîm Caffael Reolwr Caffael ar gyfer Contractio a Chomisiynu sy'n arwain pob un o'r 3 maes gwariant yn y categorïau gwahanol a Rheolwr Caffael ar gyfer Polisi a Chydymffurfiaeth (gweler y rhestr categorïau isod):

Rheolwr Caffael: Polisi a Chydymffurfiaeth – Clare Jones

Rheolwr Caffael: Contractio a Chomisiynu - Gemma Clutterbuck

Gofal Cymdeithasol a Phriffyrdd a Thrafnidiaeth – Jennifer Maughan

Adeiladu, Gwastraff a Chynnal a Chadw Adeiladau – Matthew Hughes

Gwasanaethau Corfforaethol, Gwasanaethau Proffesiynol a Rheoli Cyfleusterau – Stephanie Howells

Bydd y dull hwn yn rhoi’r sgiliau, y capasiti a’r gwytnwch i’r Cyngor ymateb i’r cynnydd o ran maint a chymhlethdod y gweithgarwch caffael gweithredol.

Adrodd Eithriadau

Mae angen i swyddogion sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Eithriadau a Hepgoriadau i'r Gofynion o ran Cystadlu o dan y Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau, (cymal 12) lenwi ffurflen ar-lein gan ddefnyddio'r Ffurflen ar gyfer Adroddiad ar Eithriadau Caffael ar y system.

Ar ôl ei llenwi bydd y ffurflen yn cael ei hanfon at Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i'w hystyried.

Rydym wedi creu dogfen ganllaw i helpu i gwblhau cais am eithriad.

Dogfen Ganllaw ynghylch Eithriadau

Polisi Cyflogaeth Foesegol  mewn Cadwyni Cyflenwi

Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Nod y polisi hwn yw esbonio’n glir y cyd-destun ar arferion masnachu a chyflogi moesegol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin o fewn ein sefydliad ein hunain a’n cadwyn gyflenwi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau safon arfer uchel er mwyn dileu gweithredoedd caethwasiaeth fodern a masnachu pobl o fewn ein busnes a’n cadwyn gyflenwi aml-haen.

Ysgrifennwyd y Polisi hwn gan yr Uned Caffael Corfforaethol a chaiff ei wreiddio ar hyd a lled y Cyngor.