Cyflenwyr Cymeradwy
Diweddarwyd y dudalen: 02/07/2026
Mae gennym nifer o gysylltiadau neu fframweithiau corfforaethol ac mae'r trefniadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith, fel rheol, ar gyfer nwyddau neu wasanaethau a ddefnyddir yn eang ledled y Cyngor. Maen nhw'n bodoli i'n galluogi i brynu eitemau'n effeithlon ac yn effeithiol ac i helpu i sicrhau cysondeb o ran ansawdd, sicrwydd o ran cyflenwad ac i arbed arian drwy arbedion maint. Mae'n rhaid ichi ddefnyddio'r trefniadau hyn os ydyn nhw'n diwallu eich anghenion.
- Mae'n rhaid cysylltu drwy'r Swyddog Arweiniol bob tro. Ni ddylai swyddogion gysylltu â chyflenwyr yn uniongyrchol o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio wrth wneud archebion yn uniongyrchol am Gyflenwadau Swyddfa a Nwyddau Traul TG, ac wrth ddilyn hynt yr archebion hynny.
- Cysylltwch â Swyddog Arweiniol y contract / fframwaith i gael cyfarwyddyd ynghylch archebu.
- Y Swyddog Arweiniol fydd yn gyfrifol am drefniadau'r contract ac am y materion prisio.
- Sicrhewch eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw broses sy'n benodol i'r adran, os oes angen
Os nad ydych yn sicr ynghylch pa gamau i'w cymryd, cysylltwch â thîm yr Uned Caffael Corfforaethol.
Mae'r rhestr hon yn cynnwys manylion am y rhan fwyaf o'r contractau corfforaethol sydd ar waith, ond nid yw'n cynnwys popeth. Cysylltwch â'r Uned Caffael Corfforaethol i gael gwybodaeth am gontractau eraill a allai ddiwallu eich gofynion.
Mae contract corfforaethol wedi'i sefydlu.
Cysylltwch â Rob Young Rheolwr y Contract i gael rhagor o fanylion am sut i ddefnyddio'r trefniant.
Dyddiad dechrau: 15/01/2024
Dyddiad dod i ben: 14/01/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Mae’r Cyngor wedi penodi cyflenwyr i ddarparu Deunyddiau Adeiladu, Deunyddiau Gwresogi a Phlymio, Deunyddiau Trydanol, Deunyddiau Sifil a Chynnyrch Cysylltiedig. Mae’r trefniant yma wedi ei rhannu ar draws 4 lot daearyddol.
Manylion y Lot
Lot 1 – Ffitiadau Trydanol, Ceblau, Goleadau ac Ategolion (Ledled Y Sir)
Cyflenwr: City Electrical Factors
Lot 2 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (De - Llanelli)
Cyflenwr: Travis Perkins
Lot 3 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (Gorllewin - Caerfyrddin)
Cyflenwr: Llandeilo Builders Merchants
Lot 4 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (Dwyrain - Rhydaman / Dinefwr)
Cyflenwr: Llandeilo Builders Merchants
Am fwy o wybodaeth ynghylch y trefniant yma ac archebu oddi wrth y cyflenwyr, cysylltwch gyda Emyr Philips on 07880 504187
Swyddog Arweiniol: Emyr Philips
Dyddiad dechrau: 01/03/2022
Dyddiad dod i ben: 29/02/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Fframwaith Gwaith Eiddo Sir Gaerfyrddin
Mae’r Fframwaith yma’n cefnogi y ddarpariaeth o waith yn gysylltiedig ag eiddo a gwaith cysylltiedig arall ledled Is-Adrannau Tai ac Eithrio Tai y Cyngor.
Manylion y Lotiau: Mae’r Fframwaith yn cynnwys 40 lot unigol sydd wedi eu selio ar ardaloedd a gwerth ac sy’n ymwneud â’r meysydd gwaith canlynol:
· Tai Gwaith Ymatebol a Gwaith Adeiladu Bach
· Gwaith Tai Cynlluniedig
· Gwaith Tai Gwag
· Addasiadau Ystafelloedd Golchi Tai
· Addasiadau Cyffredinol Tai
· Gwaith Gosod ac Atgyweirio Trydanol Tai
· Gwaith Cynnal Systemau PV (Solar) Tai
· Toi Domestig
· Lloriau Domestig
· Ffensys Domestig
· Gwaith Ymatebol Heblaw Tai
· Gwaith wedi’i Gynllunio Heblaw Tai
· Toi Masnachol (Eithrio Tai)
· Ffensys Masnachol (Eithrio Tai)
· Paentio ac Addurno Tai ac Eiddo Heblaw Tai
· Gosod Gwydr ar Dai ac Eiddo Heblaw Tai, Drysau a Ffenestri uPVC / Alwminiwm / Metel
· Clanhau, Clirio, Symud gan Gynnwys Clirio Gerddi Tai ac Eiddo Heblaw Tai
· Siediau Tai ac Eiddo Heblaw Tai
Am fwy o wybodaeth ynghylch y lotiau penodol, cysylltwch gyda’r Tîm Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai (hsgpropertycontracts@sirgar.gov.uk).
Contractwyr:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda’r Tîm Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai (hsgpropertycontracts@sirgar.gov.uk).
Swyddog Arweiniol:
Julian Lewis
Dyddiad dechrau: 01/11/2024 Dyddiad dod I ben: 31/10/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Cyflenwr/wyr:
Lyreco
Swyddog Arweiniol:
Nia Stoakes (Uwch Swyddog Cymorth Adrannol)
Dyddiad dechrau: 01/12/2022 Dyddiad dod I ben: 31/12/2026
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Mae'r Fframwaith hwn yn darparu gwasanaethau rheoli prosiect sy'n gysylltiedig ag eiddo a gwasanaethau llawn tîm dylunio gan ystod o ymgynghorwyr i'r Cyngor. Mae'r Fframwaith yn cynnwys y lotiau canlynol sy'n benodol i faes:
Lot 1 – Gwasanaethau Pensaernïol
Lot 2 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Gwaith Mecanyddol, Trydanol a Phlymio (MEP)
Lot 3 – Gwasanaethau Rheoli Prosiectau a Chost Ymgynghoriaeth
Lot 4 – Gwasanaethau Peirianneg Strwythurol sy'n Gysylltiedig ag Eiddo
Lot 5 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Ynni Isel
Lot 6 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Cynllunio
Lot 7 – Gwasanaethau Aml-ddisgyblaeth
Ymgynghorwyr: I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghorwyr a benodir i bob lot a'r gweithdrefnau yn ôl y gofyn, cysylltwch â Helen Beddow.
Swyddog Arweiniol: Helen Beddow (Arweinydd y Tîm Fframweithiau a Chontractau)
Dyddiad dechrau: 23/10/2023
Dyddiad dod I ben: 22/10/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Lot 1 - Dillad Gwaith Cyffredinol
Prif Gontractwr: Topperswales Ltd
Swyddogion Arweiniol: Nia Stoakes
Lot 2 - Gwisg Arlwyo a Domestig
Prif Gontractwr: Langstone Supplies Ltd
Swyddogion Arweiniol: Yvonne Cole / Jane Evans
Lot 3 - Gwisg Hamdden
Prif Gontractwr: SMI Group Ltd
Swyddogion Arweiniol: Richard Stradling
Lot 4 - Cyfarpar Diogelu Personol
Prif Gontractwr: PK Safety
Swyddogion Arweiniol: Nia Stoakes
Dyddiad dechrau: 01/09/2023
Dyddiad dod I ben: 31/08/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Eddie Cummings ar 01267 246180
Swyddog Arweiniol:
Dyddiad dechrau: 09/12/2025
Dyddiad dod i ben: 08/12/2028
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Ers mis Gorffennaf 2010, mae'r Awdurdod wedi gorfodi moratoriwm ar brynu unrhyw gelfi newydd i'r swyddfa. Os oes angen celfi, dylech gysylltu â Sonia Qualters-Jones yn gyntaf i gael gwybod am y celfi sy'n cael eu storio ar draws yr Awdurdod a allai ddiwallu eich anghenion.
Dylid defnyddio celfi sydd wedi'u storio, yn hytrach na phrynu celfi bob tro.
Bydd rhaid i unrhyw eitemau a brynir gyd-fynd â'r celfi a fydd yn cael eu darparu yn y dyfodol wrth i ni greu amgylchedd gweithio ystwyth yn unol â'r rhaglen gweithio ystwyth.
Ni chaniateir i chi brynu'r eitemau canlynol gan fod nifer fawr ohonynt mewn stoc, neu gan nad ydynt yn addas i'r cysyniad o weithio ystwyth.
Cypyrddau pedestal (Darperir loceri wrth i ystafelloedd timau ystwyth gael eu sefydlu).
Silffoedd llyfrau
Cabinetau ffeilio
Cypyrddau metel
Rhanwyr desgiau neu sgriniau sy'n sefyll ar eu traed eu hunain
Bydd unrhyw wariant ar gelfi swyddfa yn cael ei fonitro'n fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Stephanie Howells yn yr Uned Caffael Corfforaethol.
Dyddiad dechrau: 10/06/2025
Dyddiad dod i ben: 09/06/2029
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Mae’r fframwaith yma ar gyfer llogi offer a pheiriannau / cyfarpar cysylltiedig, gyda ac heb weithredydd. Mae hyn yn cynnwys offer a pheiriannu trwm megis cloddwyr, tanceri faciwm, ysgubwyr ffordd, llwythwyr telesgopig, rholwyr, cerbydau codi, toiledau symudol, cynhwysyddion safle a ffensys diogelwch.
Manylion y Lotiau:
Mae’r fframwaith yn cynnwys 21 lot unigol sy’n cynnig ystod eang o offer a pheiriannau / cyfarpar cysylltiedig. Am fwy o wybodaeth ynghylch y lotiau penodol, cysylltwch gyda’r Swyddog Arweiniol.
Contractwyr:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr penodedig a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda’r Swyddog Arweiniol.
Swyddog Arweiniol:
Darren King (Rheolwr Gwasanaethau’r Priffyrdd)
Dyddiad cychwyn: 01/04/2026
Dyddiad dod i ben: 31/03/2028
Cyfnod ymestyn posibl (Misoedd): 24
Cyflenwr/wyr:
Centerprise International
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333 neu'r Tîm Caffael TG ar 01267 246299
Cyflenwr/wyr:
Stone Computers (www.stonegroup.co.uk)
Ar gyfer Perifferolion TGCh, mae gan bob BSU Adrannol fynediad i'r porth archebu a'r tîm Rheoli Cyfrifon yn Sir Gaerfyrddin a byddant yn gallu prosesu'r gorchmynion hyn i'w danfon yn uniongyrchol i'ch cyfeiriad busnes.
Cyflenwr/wyr:
EE
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333
Swyddog Arweiniol:
Lyreco
Sefydlodd Tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) Gytundeb Fframwaith ar ran Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer cyflenwi Deunydd Ysgrifennu a Phapur Llungopïo (WGCD-CS-111-21).
Bydd y contract yn weithredol tan ddiwedd mis Chwefror 2027.
Mae Lyreco yn darparu siop ar-lein. Mae hyn yn eich galluogi i weld gwybodaeth gyfredol am y cynnyrch a gwirio argaeledd stoc cyn gosod eich archeb.
Bydd angen ichi ddefnyddio'r manylion mewngofnodi canlynol i fynd i'r siop ar-lein:
- Mewngofnodi: VIEW-ONLY
- Cyfrinair: CARMARTHEN
Mae'r Eitemau Craidd sydd ar gael ar y Contract hwn wedi'u cynnwys yn y Rhestr Brisiau isod. Ewch i'r siop ar-lein i gael Prisiau wedi'u diweddaru o Eitemau nad ydynt yn Rhai Craidd.
Lawrlwytho:
Rhestr Brisiau Lyreco o 16eg Mehefin 2025
Mae'r Cyngor wedi cytuno i weithredu gwerth archeb isafswm o £10 gan fod y fenter arfer gorau hon yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a mentrau datgarboneiddio.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Steph Howells (Pen-swyddog Caffael) neu fel arall gallwch gysylltu â Milena Thomas (Rheolwr Cyfrifon Allweddol Lyreco) drwy ffonio 0345 2661781 neu e-bostio milena.thomas@lyreco.com.
Swyddog Arweiniol:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y Fframwaith yma a’r cyflenwyr, cysylltwch gyda Huw Parsons ar 07733 102318.
Swyddog Arweiniol:
Dyddiad dechrau: 03/06/2026
Dyddiad dod i ben: 02/06/2034
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Cyflenwr/wyr:
Konica Minolta Business Solutions (UK) Ltd
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333
Swyddog Arweiniol:
Mae’r Cyngor penodi contractwyr i ddarparu gwasanaethau gwaredu carthion, wasanaethau cysylltiedig â charthffosiaeth a gwaith adfer cysylltiedig sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni a gweithredu ei asedau Cynnal a Chadw Eiddo, Priffyrdd ac Amddiffyn Llifogydd. Mae’r trefniant wedi cael ei rannu’n 3 Lot.
Manylion Lot
Lot 1 – Gwasanaeth Tanceru Cylchol
Lot 2 – Gwaith Ymateb Brys ac Argyfwng
Lot 3 – Gwaith wedi’i gynllunio
Am fwy o wybodaeth ynghylch y trefniant yma, y contractwyr a benodwyd a’r gweithdrefnau ar gyfer galw i ffwrdd er mwyn dyfarnu gwaith, cysylltwch gyda Emyr Philips ar 07880 504187.
Swyddog Arweiniol: Emyr Philips
Dyddiad dechrau: 06/11/2023
Dyddiad dod i ben: 05/11/2026
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys a Chyngor Abertawe, ar gyfer gwasanaethau ymgynghori peirianneg sifil ar draws y rhanbarth.
Manylion y Lotiau:Mae’r Fframwaith yn cynnwys dau Lot:
Lot 1 – Gwasanaethau Ymgynghori Arbenigol (ar gyfer comisiynau hyd at £50,000 mewn gwerth)
Lot 2 – Gwasanaethau Aml-Ddisgyblaethol
Ymgynghorwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghorwyr a benodwyd a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Adrian Harries neu Robert M Evans.
Swyddog Arweiniol: Adrian Harries (Rheolwr Gwasanaethau Dylunio Proffesiynol)
Dyddiad dechrau: 01/04/2025
Dyddiad dod i ben: 31/03/2028
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, er mwyn cynorthwyo i gyflawni prosiectau adeiladu peirianneg sifil ar draws y rhanbarth. Mae’r Fframwaith yn cynnwys lotiau sir-benodol a rhanbarthol ar gyfer gwaith peirianneg sifil, ynghyd â lotiau ar gyfer gwaith sifil arbenigol.
Manylion y Lotiau: Y lotiau sydd ar gael i’w defnyddio gan swyddogion Sir Gaerfyrddin yw:
Lot 1B Gwasanaethau Adnodd Peirianneg Sifil Bach Iawn yn Sir Gaerfyrddin (hyd at £50k)
Lot 2B Gwaith Peirianneg Sifil yn Sir Gaerfyrddin (hyd at £400k)
Lot 3 Gwaith Peirianneg Sifil (£400k- £2m)
Lot 4 Gwaith Peirianneg Sifil (£2m+)
Lot 5 Dymchwel
Lot 6 Goleuadau Cyhoeddus
Lot 7 Gosod Llinellau a Marciau Ffordd
Lot 8 Gosod Arwyneb Ffyrdd
Lot 9 Ymchwiliad Tir
Lot 10 Gwaith Morol (ac eithrio’r Arfordir)
Lot 11 Rheoli Traffig
Datblygiad allweddol i iteriad yma o’r Fframwaith yw cynnwys lotiau sir-benodol ar gyfer Gwasanaethau Adnodd Peirianneg Sifil Bach Iawn (Lot 1B i Sir Gaerfyrddin) gyda gwerth hyd at £50,000, er mwyn ategu at weithluoedd llafur uniongyrchol mewnol y Cynghorau rhanbarthol. Mae’r gwasanaethau yma’n cynnwys ond heb eu cyfyngu at:
Gwaith sifil cyffredinol
Cloddwaith / Gweithredwyr peiriannau
Clirio cyffredinol ar safleoedd
Ffensio
Draenio
Gosod brics
Gwaith llif gadwyn
Gwaith maen
Asio / Gwaith metal
Gosod cwrbin
Paentio pontydd
Atgyweirio concrit
Estyllu
Gwaith gosod dur
Gwaith ymateb i argyfwng
Contractwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr penodedig ym mhob lot a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Adrian Harries neu Alwyn B Williams.
Swyddog Arweiniol: Adrian Harries (Rheolwr Gwasanaethau Dylunio Proffesiynol)
Dyddiad cychwyn: 06/02/2023
Dyddiad dod i ben: 05/02/2027
Cyfnod Estyniad Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, er mwyn cynorthwyo i gyflawni prosiectau adeiladu ar draws y rhanbarth.
Manylion y Lotiau: Y lotiau sydd ar gael i’w defnyddio gan swyddogion Sir Gaerfyrddin yw:
- 1A Gorllewin (£0 - £1,000,000)
- 2A Gorllewin (£1,000,000 - £2,000,000)
- 3A Gorllewin (£2,000,000 - £4,000,000)
- 4A Gorllewin (£4,000,000 - £7,000,000)
- 5 Rhanbarthol (£7,000,000 - £15,000,000)
- 6 Rhanbarthol (£15,000,000 - £25,000,000)
- 7 Rhanbarthol (£25,000,000+)
- 8 Tai Rhanbarthol (£0 - £5,000,000)
- 9 Tai Rhanbarthol (£5,000,000+)
Contractwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Helen Beddow (hfbeddow@sirgar.gov.uk).
.
Swyddog Arweiniol:
Dyddiad dechrau: 05/11/2024
Dyddiad dod I ben: 04/11/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
