Iechyd Galwedigaethol
Mae Iechyd Galwedigaethol yn hyrwyddo ac yn cynorthwyo i gynnal y safon uchaf o ran iechyd corfforol a meddyliol ein gweithwyr, ar draws yr awdurdod.
Rydym yma i'ch cynorthwyo i aros yn y gwaith, i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt ac i atal pobl rhag gorfod gadael y gweithle oherwydd salwch.
Mae ein clinigwyr yn darparu cyngor meddygol o ansawdd uchel i sicrhau eich bod chi a'ch rheolwyr yn cael gwybodaeth a chyngor ar y ffyrdd gorau i'ch cefnogi chi a'ch iechyd. Gall hyn gynnwys argymhellion neu addasiadau sydd eu hangen yn y gweithle neu hyd yn oed atgyfeiriad at un o'n gwasanaethau eraill; megis Cymorth Llesiant, Ffisiotherapi ac ati...
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch y dolenni isod:

Gwasanaeth Cymorth Llesiant
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Gwasanaeth Cymorth Llesiant a sut y gall eich cefnogi.

Tim Meddygol
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ein Tîm Meddygol eich cynorthwyo i ddychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith.

Arolygu Iechyd
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Wyliadwriaeth Iechyd
Diweddarwyd y dudalen: 05/01/2021 14:08:06