Arolygu Iechyd

Diweddarwyd y dudalen: 02/11/2023

Yn dibynnu ar eich swydd, efallai y bydd gofyn ichi gael sesiwn Arolygu Iechyd. Cyfres o brofion yw hyn, a allai gynnwys un neu’r cyfan o’r canlynol:

Arolygu Iechyd Statudol

Clyw, anadlu, croen, syndrom digrynu llaw a braich, asbestos, gweithio yn y nos

Asesiadau Iechyd / Ffitrwydd i Weithio (Anstatudol)

  • Sgrinio’r golwg gan ddefnyddio canllawiau’r DVLA (gyrwyr HGV/PSV a faniau, a bysys mini â llai nag 16 sedd)
  • Asesiad Hebryngwyr Croesfannau Ysgol

Wrth ymuno â’r awdurdod, os yw eich swydd wedi’i nodi yn un sy’n galw am brofion arolygu iechyd, byddwch yn derbyn llythyr yn cynnig apwyntiad gyda’r Uned Iechyd Galwedigaethol.  Mae’n gyfrifoldeb ar eich rheolwr i lenwi asesiadau risg i’ch swydd ac anfon gweithwyr at yr Uned Iechyd Galwedigaethol os oes angen. Caiff y profion eu cynnal gan nyrs. Mae hyn yn rhan o gyfraith Iechyd a Diogelwch a’i ddiben yw diogelu eich iechyd.

Mae profion fel arfer yn cymryd hyd at un awr os bydd angen cynnal pum prawf, ac yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol.

Caiff y profion eu cynnal pan fyddwch yn ymuno a’r awdurdod, os yw eich swydd wedi’i nodi yn un sy’n galw am brofion arolygu iechyd.  Caiff profion pellach eu cynnal os bydd angen yn unol â chanllawiau diogelwch. Efallai y bydd angen i rai gweithwyr dderbyn profion yn amlach oherwydd y canlyniadau neu os bydd newid yn eich swydd neu os byddwch yn nodi newidiadau yn eich iechyd.

Yn ôl Rheoliadau Sŵn 2005, mae gofyn i reolwyr arolygu iechyd mewn perthynas â pheryglon a nodir drwy asesiad risg, os oes techneg ddilys i fonitro iechyd ar gael. Mae Awdiometrig yn dechneg o’r fath i fonitro iechyd.

Bydd y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol yn cynnal asesiadau iechyd ar gyfer gweithwyr sy’n debygol o gael eu hamlygu i lefelau sylweddol o sŵn yn ôl diffiniad asesiadau risg (sŵn). Bydd hyn yn cynnwys llenwi Holiadur Clyw a derbyn prawf awdiometrig. Caiff yr asesiadau eu cynnal mewn sesiwn sgrinio cyn cychwyn, ac ar gyfnodau penodol wedi hynny yn unol ag argymhellion yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Asesiadau Risg gan eich rheolwr.

Caiff yr asesiad ei gynnal gan y staff nyrsio a bydd yn para tua 20 munud, ac yn gynnwys:

  • Cwblhau Holiadur Meddygol
  • Hanes o Amlygiad i Sŵn
  • Archwilio’r clustiau
  • Prawf Awdiometreg
  • Esbonio’r canlyniadau

Efallai y bydd angen archwiliad pellach gan Feddyg Galwedigaethol, yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad.

Gall arolygu iechyd ar gyfnodau rheolaidd ar sail asesiad risg arwain at ganfod problemau ar gamau cynnar, a gallai lleihau amlygiad atal cynnydd clefydau, helpu i gydnabod methiant camau rheoli, a lleihau atebolrwydd i erlyniadau a hawliadau sifil.

Yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 2002, argymhellir bod gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu hamlygu i beryglon anadlol yn derbyn prawf arolygu iechyd anadlol.

Bydd y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol yn cynnal profion gweithrediad yr ysgyfaint i’r gweithwyr hynny a allai fod yn cael eu hamlygu i lefelau sylweddol o beryglon anadlol yn ôl diffiniad Asesiadau Risg (COSHH).

Bydd hyn yn cynnwys llenwi Holiadur Sbirometreg a phrawf Sbirometreg. Caiff yr asesiadau hyn eu cynnal ar gam sgrinio swydd newydd os yw’n briodol, ac wedyn ar gyfnodau penodol wedi hynny yn unol ag asesiadau risg y rheolwyr a’n gweithdrefnau ni. Caiff yr asesiad ei gynnal gan y staff nyrsio a bydd yn para tua 15 munud, ac yn cynnwys:

  • Llenwi Holiadur Meddygol
  • Hanes o Amlygiad COSHH
  • Prawf Sbirometreg
  • Esbonio’r canlyniadau

Efallai y bydd angen archwiliad pellach gan Feddyg Galwedigaethol, yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad.

Yn unol â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu hamlygu i beryglon i’r croen yn derbyn prawf arolygu croen rheolaidd, ar sail asesiad risg rheolaidd.

Dyma ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ofal croen:

  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 2002;
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992;
  • Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992;
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Rhaid i reolwyr llinell gynnal asesiad risg i nodi peryglon posibl i iechyd, gan gynnwys clefydau’r croen, sy’n codi o amlygiad i sylweddau cemegol, biolegol neu asiantau eraill.

Caiff yr asesiad ei gynnal gan y staff nyrsio a bydd yn para tua 15 munud, ac yn cynnwys:

  • Llenwi Holiadur Meddygol
  • Archwilio’r dwylo

Efallai y bydd angen archwiliad pellach gan Feddyg Galwedigaethol, yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad.

O dan Reoliadau Rheoli Asbestos yn y Gwaith 2002, rhaid i weithwyr sy’n cael eu hamlygu i asbestos yn uwch na lefel benodol fod yn destun arolwg meddygol priodol gan feddyg perthnasol yn unol â’r Rheoliadau. Bydd yr arolwg meddygol yn cynnwys archwiliadau meddygol cychwynnol a chyfnodol.

Diben hyn yw:

  1. Cynghori’r gweithwyr ynglŷn â ffitrwydd i weithio gydag asbestos (gan dalu sylw penodol i’r system anadlol)
  2. Rhoi gwybodaeth wrthrychol i’r gweithwyr am gyflwr presennol eu hiechyd (gan dalu sylw penodol i’r system anadlol)
  3. Tynnu sylw’r gweithwyr at arwyddion cynnar o glefyd a chynghori ynghylch parhau i gael eu hamlygu.
  4. Tynnu sylw’r gweithwyr at unrhyw broblem benodol a allai olygu bod angen darparu peiriant anadlu arbennig.

Bydd hyn yn cynnwys cwblhau Holiadur Asbestos a Gwiriad Iechyd gan Weithiwr Iechyd Galwedigaethol Proffesiynol. Bydd yr asesiad yn para tua 45 munud, ac yn cynnwys:

  • Prawf Gweithrediad yr Ysgyfaint – wedi’i gynnal gan nyrs cyn ichi weld Meddyg Iechyd Galwedigaethol
  • Llenwi Holiadur Meddygol
  • Hanes o Amlygiad i Asbestos
  • Archwiliad os yw’n briodol
  • Esbonio’r canlyniadau

NODER: Yn gyfreithiol, nid yw’r archwiliad meddygol yn archwiliad ffitrwydd i weithio, a gallai fod angen i’r cyflogwr ystyried archwiliad ffitrwydd y tu hwnt i Reoliadau Rheoli Asbestos yn y Gwaith i gydymffurfio â chyfrifoldebau cyfreithiol eraill. I gael mwy o wybodaeth, gweler Nodyn Cyfarwyddyd Meddygol Asbestos MS13 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

O dan reoliadau oriau gwaith, dylai eich rheolwr gynnig asesiad ichi, ond eich dyletswydd chi yw ei lenwi a’i ddychwelyd os ydych yn dymuno. 

Pwrpas yr holiadur hwn yw monitro eich iechyd mewn perthynas â dyletswyddau gweithio nos.  Yn ôl Rheoliadau Amser Gweithio 1998 mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu cyfle i weithwyr nos gael asesiad iechyd am ddim.

Linc:
Asesiad Iechyd Gweithwyr Nos

Cynhelir asesiadau iechyd swyddi newydd ar gyfer gweithwyr dynodedig sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed yn unol â 'Deddf Cydraddoldeb 2010' a chanllawiau 'Addas i Ddysgu' 2000.  

Pan gynigir swydd i'r gweithwyr a nodwyd uchod, byddant yn cael ffurflen sgrinio bapur i'w chwblhau ar gyfer swydd newydd. Pan fydd gweithiwr yn ticio 'ydw' ar gyfer un neu ragor o'r cwestiynau, bydd yn cael apwyntiad Iechyd Galwedigaethol yn unol â 'Deddf Cydraddoldeb 2010', oherwydd gallai fod angen gwneud addasiadau rhesymol cyn i'r gweithiwr ddechrau ei swydd.   

Mae'n rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth isod i'r gweithiwr, lle mae'r tîm recriwtio wedi nodi bod angen cadarnhau ei iechyd ar gyfer y swydd:  

  • Teitl y Swydd: 
  • Adran: 
  • Lleoliad y Swydd: 
  • Enw'r Rheolwr: 
  • Hefyd bydd angen i reolwyr mewnol ddarparu côd cost i'r adran Iechyd Galwedigaethol cyn prosesu. Gweler y ddolen ar gyfer ffioedd cysylltiedig (Dylai ysgolion gyfeirio at y ddogfen Cytundeb Lefel Gwasanaeth o ran taliadau).

Ar ôl i’r gweithiwr gael ei gadarnhau gan y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol, byddwch chi fel y rheolwr yn cael llythyr Cadarnhad Iechyd ar gyfer eich ffeiliau.