Pwy fydda i'n ei weld?

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Os cewch eich cyfeirio at y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol, byddwch yn cael apwyntiad gydag un o'n gweithwyr meddygol proffesiynol a fydd yn asesu cyflwr eich iechyd.
Tim meddygol

Mae ganddynt brofiad helaeth ac maent yn arbenigo mewn achosion o absenoldeb salwch. Maent yn rhoi sylw i'r problemau y mae gweithwyr yn eu hwynebu er mwyn dod o hyd i ffyrdd o'u helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Maent yn feddygon profiadol sydd wedi cael hyfforddiant mewn Iechyd Galwedigaethol. Maent yn ymdrin â'n hachosion mwy cymhleth er mwyn sicrhau bod cleientiaid yn cael eu hasesu a'u cefnogi'n llawn.

Mae ymarferwyr y Gwasanaeth Cymorth Llesiant yn weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â hyfforddiant arbenigol wrth ddarparu ymyriadau seicolegol.

Nyrsys sy'n meddu ar gymwysterau o safon uchel yw'r rhain. Maent yn gyfrifol am gwblhau arolygon iechyd, asesiadau yn y gweithle, a phrofion ar gadeiriau ac maent yn mynychu digwyddiadau iechyd er mwyn cynnal gwahanol sgriniadau ffordd o fyw.

Mae ffisiotherapyddion yn trin cleifion er mwyn adfer y modd y mae'r corff yn gweithredu ac yn symud i'r graddau gorau posibl pan effeithir arnynt gan anaf, salwch, anabledd datblygiadol, neu ryw anabledd arall.