Y Polisi Canslo

Diweddarwyd y dudalen: 09/01/2024

Y Polisi Canslo

Y Polisi Canslo

Mae angen 5 diwrnod gwaith llawn o rybudd os na allwch ddod i'ch apwyntiad. Bydd methu â bod yn bresennol neu fethu â rhoi digon o rybudd yn golygu y codir tâl ar eich rheolwr o hyd. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad, gan sicrhau bod gennych signal/wifi ac ati..

Bydd ein hymarferwyr yn cysylltu â chi ar amser penodol yr apwyntiad, os na allant gysylltu â chi, byddant yn ceisio am yr eildro. 

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael apwyntiad naill ai dros y ffôn neu drwy fideo, cysylltwch â'r tîm Iechyd Galwedigaethol o fewn y 10 munud cyntaf i sicrhau y gellir mynd i'r afael â'r materion a bod modd mynd ymlaen â'r apwyntiad. Os nad ydynt wedi gallu cysylltu â chi ar ôl 10 munud, ni fydd yr apwyntiad yn gallu mynd ymlaen a bydd yn cael ei ganslo a tâl wedi ei godi.

Bydd unrhyw apwyntiadau Gwasanaeth Cymorth Llesiant nad ydynt yn cael eu mynychu heb roi digon o rybudd, yn cael eu didynnu o gyfanswm y sesiynau a awdurdodir gan reolwr llinell (os bydd hyn yn digwydd ddwywaith byddwch yn cael eich rhyddhau’n awtomatig.)

Bydd rheolwyr yn cael gwybod am yr holl achosion o fethu â mynychu apwyntiadau y codir tâl amdanynt.

Os hoffech gael mynediad at eich cofnodion Iechyd Galwedigaethol gweler Gweithdrefn Cyfrinachedd y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol ar y fewnrwyd neu cysylltwch â ni ar: 01267 246060.