Canllawiau I Reolwyr A Phenaethiaid Ysgol

Diweddarwyd y dudalen: 12/03/2024

Canllawiau i Reolwyr ynghylch Iechyd Galwedigaethol

Isod mae gwybodaeth ddefnyddiol i'ch cefnogi fel rheolwr i gefnogi eich gweithwyr drwy'r broses Iechyd Galwedigaethol. 

Pan dderbynnir adroddiad meddygol, mae'n bwysig adolygu'r adroddiad yn drylwyr, wedyn cyfarfod â'r gweithiwr i drafod yr argymhellion/addasiadau a awgrymir.

Pan gaiff addasiadau a awgrymir eu rhoi ar waith, mae'n bwysig pennu dyddiadau adolygu rheolaidd i sicrhau bod y rhain yn dal yn briodol.

Os oes gennych chi neu'r gweithiwr ymholiadau neu os oes angen eglurhad arnoch ar agweddau ar yr adroddiad. Gallwch chi/y gweithiwr e-bostio'r rhain at Iechyd Galwedigaethol (IechydGalwedigaethol@sirgar.gov.uk) i gael diweddariad gan yr ymarferydd.

Sicrhewch fod y rhain yn cael eu cyflwyno o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn yr adroddiad.

Gan fod yr adroddiad meddygol Iechyd Galwedigaethol yn cynghori bod y gweithiwr yn ddigon iach i ddychwelyd, byddai hyn yn disodli'r nodyn ffitrwydd. Byddem yn cynghori y dylid cael sgwrs gyda'r gweithiwr i drafod cynllun dychwelyd i'r gwaith.

Rydym yn deall bod yr Asesiad Straen Unigol yn offeryn rheoli. Fodd bynnag, pan gaiff gweithiwr ei atgyfeirio i'r tîm Iechyd Galwedigaethol am gyngor meddygol, mae'n ddefnyddiol iawn i'r Asesiad Straen Unigol gael ei lanlwytho. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein clinigwyr yn deall yr hyn sydd eisoes yn cael ei roi ar waith o safbwynt rheoli. 

Cyn gofyn am gynhadledd achos, yn y lle cyntaf byddem yn annog rheolwyr i ofyn drwy e-bost am eglurhad ar y cyngor a roddwyd yn yr adroddiad meddygol. 

Ar adegau, efallai y bydd gwrthdaro rhwng canlyniadau'r adroddiad, barn y gweithiwr ac anghenion y gwasanaeth a bydd angen mynd i'r afael â rhain, yn aml gellir datrys y rhain drwy drefnu cyfarfod gyda'r Rheolwr ac Adnoddau Dynol.  

Mae cynhadledd achos yn gyfarfod anffurfiol nad yw'n rhan o'r polisi absenoldeb salwch. Defnyddir cynhadledd achos yn yr achosion mwyaf cymhleth ond yn syml cyfarfod yw hwn i roi eglurhad meddygol pellach ar yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad. Cynhelir y cyfarfod rhwng y gweithiwr, y rheolwr, y clinigwr, y Cynghorydd Adnoddau Dynol a chynrychiolydd undeb llafur pan fo angen.  

Y rheolwr fyddai'n arwain y cyfarfod fel arfer gyda'r ymarferydd Iechyd Galwedigaethol yno i roi barn meddygol.