Canllawiau i Reolwyr a Phenaethiaid Ysgol

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Isod ceir cymorth defnyddiol i reolwyr yn benodol i sicrhau eich bod yn teimlo'n abl ac yn gymwys i gefnogi eich gweithwyr wrth iddynt ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Llesiant.

Mae'r Asesiad Straen Unigol yn cael ei ddefnyddio i adnabod sbardunau straen a helpu i gefnogi gweithwyr yn y gweithle. 

Adnodd rhagweithiol yw hwn y gellid ei ddefnyddio yn ystod: 

  • Rhan o sesiwn oruchwylio 
  • Rhan o sesiynau arfarnu 
  • Rhan o gyfarfodydd 1 i 1 

Dyma'r amserau eraill y gellir ei ddefnyddio: 

  • lle bo mater yn peri pryder (e.e. absenoldeb salwch, neu os oes arwyddion amlwg o straen) 
  • yn ystod cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith a/neu gyfarfodydd cefnogi gweithwyr 
  • lle bo newid mawr yn yr adran/maes gwaith/tîm

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Llesiant yn darparu cymorth llesiant seicolegol ac emosiynol i weithwyr. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys asesiad cychwynnol ac, os oes angen, 6 sesiwn ddilynol arall, gydag un o'n Hymarferwyr Cymorth Llesiant cymwysedig.

I'r gwrthwyneb, mae ein Cynghorwyr/Meddygon Iechyd Galwedigaethol yma i gynghori ar ffitrwydd i weithio a hefyd i ddarparu argymhellion ar addasiadau a allai gefnogi gweithiwr wrth ddychwelyd i'r gwaith neu'n aros yn y gwaith. Yn dilyn ymgynghoriad, bydd adroddiad meddygol llawn yn cael ei lunio ar ôl i'r gweithiwr roi caniatâd.

Ni fydd unrhyw adroddiad meddygol yn cael ei ddarparu. Bydd crynodeb o ryddhau yn cael ei ddarparu pan fydd y gweithiwr wedi cwblhau eu sesiynau.

 

Gellir atgyfeirio gweithiwr i'r gwasanaeth ar unrhyw adeg, ac mae ymyrraeth gynnar, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl, yn allweddol. 

Bydd adroddiad interim wedi'i anfon atoch gan yr ymarferydd am nifer o resymau. Yn gyntaf, gall fod yn gais am sesiynau ychwanegol i ymestyn y cymorth i'r gweithiwr. Yn ail, gallai fod yn gais i atgyfeirio'r gweithiwr i'n Cynghorydd/Meddyg Iechyd Galwedigaethol am fewnbwn meddygol i'w gefnogi i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith.

PWYSIG:

Pan ddarperir adroddiad interim, mae'n hanfodol gweithredu ar hyn cyn gynted â phosibl, er mwyn osgoi unrhyw oedi o ran cymorth i'r gweithiwr. Os ydych yn derbyn adroddiad interim a'ch bod yn ansicr o'r camau nesaf, cysylltwch â'r tîm Iechyd Galwedigaethol (01267 246 060) sydd yno i'ch cefnogi.