Eich apwyntiadau

Diweddarwyd y dudalen: 04/04/2024

Amcanion Iechyd Galwedigaethol

Hyrwyddo, gwarchod a chynnal iechyd, diogelwch, a lles gweithwyr yn y gwaith.

Helpu gweithwyr yn y gwaith, yn unol â'r Polisi Absenoldeb Salwch.

Darparu amgylchedd diogel lle gall gweithwyr drafod materion yn gyfrinachol ac yn deg, gan lynu at y ffeithiau a chan fod yn ddiduedd.

Rhoi cyngor ynghylch newidiadau rhesymol neu ddewisiadau addas eraill er mwyn hwyluso dychweliad gweithwyr i'r gwaith.

Annog gweithwyr i reoli eu sefyllfaoedd eu hunain

Sut y gallwn ni helpu?

Gall Iechyd Galwedigaethol fod o fudd i unrhyw un yn y Cyngor sy'n credu bod ganddo/ganddi broblem feddygol sy'n effeithio ar ei fywyd gwaith. Gallai'r problemau gynnwys y canlynol:

  • Straen
  • Cyflyrau meddygol
  • Problemau â'r cefn neu'r gwddf

Y broses gyfeirio

Er mwyn cael eich cyfeirio at yr Uned Iechyd Galwedigaethol bydd angen atgyfeiriad arnoch gan eich rheolwr.

Nid ydym yn derbyn atgyfeiriadau sydd heb gael eu trafod gyda chi'r gweithiwr.

Nodwch:Cynhelir apwyntiadau Iechyd Galwedigaethol yn bennaf trwy Microsoft Teams neu dros y ffôn. Cynhelir ymgynghoriadau meddygol wyneb yn wyneb lle mae angen clinigol a byddai hyn yn cael ei bennu yn ystod brysbennu meddygol.  

Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth: