Dolenni cyflym yr asiantaeth cymorth

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Siarad am eich problemau yw un o’r ffyrdd allweddol o fynd i’r afael â straen. Pa un a yw eich straen yn gysylltiedig â gwaith ai peidio, mae peidio â rheoli’r symptomau’n golygu yr effeithir ar y ddwy ran o’ch bywyd.

Os ydych chi’n teimlo bod arnoch angen cymorth siaradwch gyda’ch rheolwr, eich meddyg teulu neu siaradwch gyda rhywun yr ydych yn teimlo’n gyfforddus yn siarad gydag ef neu gyda hi. Gallai atgyfeiriad at ein Gwasanaeth Cymorth Llesiant fod o fudd ichi. Fodd bynnag, mae dosbarthiadau, grwpiau a deunyddiau darllen a allai eich helpu i ddod o hyd i dechnegau ymdopi effeithiol hefyd.

Gall ein Gweithdai Rheoli Straen yn y Gweithle helpu rheolwyr i adnabod arwyddion sy'n awgrymu bod straen yn broblem.

Gweler isod nifer o ddolenni cyflym a fydd yn mynd â chi'n syth at yr asiantaethau cymorth sydd eu hangen arnoch. Fodd bynnag rydym bob amser yn pwysleisio, os ydych chi'n teimlo ar unrhyw adeg bod eich iechyd meddwl yn dirywio, cysylltwch â'ch meddyg teulu, y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau arferol, neu ewch i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn argyfwng iechyd meddwl.