Cais am atgyfeiriad

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Gofynnwch y cwestiynau isod i chi eich hun i benderfynu a oes angen atgyfeiriad ar weithiwr, neu a allwch chi fel ei reolwr ei gefnogi'n ddigonol.

Y Rheolwr - a ydych chi wedi gwneud y canlynol:

  • Cynnal Asesiad Straen Unigol a chytuno ar gynllun gweithredu?
  • Gweithredu'r holl atebion ymarferol i gefnogi'r gweithiwr o safbwynt rheoli?
    • Newid oriau gwaith (e.e. dechrau'n hwyrach, gorffen yn gynharach), gweithio gartref, gweithio hybrid
    • Lleihau'r llwyth gwaith
    • Cymorth gofal plant
    • Hyfforddiant
  • Treialu'r holl/unrhyw addasiadau dros dro posibl i gefnogi'r gweithiwr? e.
    • Newid patrwm shifft
    • Peidio â gwneud rhai tasgau
    • Cymorth/goruchwyliaeth gan gydweithiwr

*Mae cyngor ar addasiadau dros dro mewn perthynas â Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl ar gael drwy'r ddolen ganlynol - Rheol Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gwithle (Pecyn Cymorth I Reolwyr)

Y Gweithiwr  -  a ydych wedi gwneud y canlynol:

  • Cysylltu â'ch meddyg teulu i drafod eich pryderon iechyd?
  • Cysylltu â'ch meddyg teulu i ofyn am atgyfeiriad am gymorth?

Os ydych chi'n cytuno ar y cyd bod angen atgyfeiriad iechyd galwedigaethol o hyd, cliciwch y ddolen briodol isod:

Cyrraedd pwynt sbarduno yn y polisi salwch*, pryderon am lesiant gweithiwr, neu fod y gweithiwr yn gofyn am gymorth.

* Nid oes angen atgyfeirio bob amser e.e. Os oes 4 achos o fân anhwylderau yn digwydd (h.y. annwyd/peswch) ni fyddai angen atgyfeirio o reidrwydd. Dylid ystyried pob achos yn unigol.

Er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch gweithiwr yn manteisio i'r eithaf ar yr atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol, cofiwch ystyried yr isod cyn yr atgyfeiriad:

A ydych chi wedi trafod yr atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol gyda'r gweithiwr?

Mae'n hanfodol bod yr atgyfeiriad yn cael ei drafod gyda'r gweithiwr cyn ei gyflwyno. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn hapus i fwrw ymlaen a hefyd i sicrhau eich bod chi fel y rheolwr wedi trafod y rhesymau dros yr atgyfeiriad yn fanwl a bod gennych yr holl fanylion perthnasol gofynnol.

A oes gennych holl fanylion y gweithiwr i sicrhau eich bod yn gallu llenwi'r ffurflen?

Bydd y manylion o ran cyfeiriad a swydd yn cael eu llenwi'n awtomatig.

Bydd y canlynol yn ofynnol:

  • Rhif y Gweithiwr
  • Hanes Absenoldeb Salwch
  • Cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt (Sicrhewch fod y gweithiwr yn rhoi'r cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt mwyaf priodol i chi)

 

Noder:

Pan fydd atgyfeiriad yn cynnwys gwybodaeth gyswllt anghywir, cewch eich hysbysu trwy e-bost. Os na ddarperir gwybodaeth gywir i'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol cyn pen 3 diwrnod ar ôl ei dderbyn, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei ddileu a byddai angen ei ailgyflwyno os ydych yn dymuno i'r gweithiwr gael ei weld.

A yw'r atgyfeiriad am gyngor meddygol yn ymwneud â chyflwr gweithiwr neu a yw'n gais am Gwasanaeth Cymorth Llesiant? 

Cyngor Meddygol – Pan fo angen cyngor meddygol, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei brysbennu i un o'n clinigwyr iechyd galwedigaethol (Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol/Meddyg/Meddyg Ymgynghorol). Bydd yn cynnal asesiad gyda'r gweithiwr ac, yn dilyn caniatâd, yn darparu adroddiad meddygol i gefnogi iechyd y gweithiwr ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi er mwyn cefnogi'r gweithiwr i ddychwelyd i'r gwaith neu barhau yn y gwaith.

Gwasanaeth Cymorth Llesiant – Pan fo angen cymorth, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei brysbennu i'n Hymarferwyr Cymorth Llesiant a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol i ystyried a yw'r cymorth yn briodol ac, os felly, darparu sesiynau cymorth pellach.

A yw'r rheswm yn gysylltiedig â'r Cartref/Gwaith neu Iechyd?

Mae'n bwysig deall y rheswm dros yr atgyfeiriad a sicrhau bod gennych yr holl fanylion perthnasol i lenwi'r ffurflen atgyfeirio. Bydd y ffurflen yn gofyn am gefndir ac am addasiadau. Dyma rai awgrymiadau ynghylch sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth briodol:

Cefndir:   

  • Diagnosis
  • Symptomau
  • Triniaeth
  • Effaith y gwaith ar iechyd/effaith iechyd ar y gwaith
  • A yw'r absenoldeb wedi cael ei reoli? e.e. ar ba gam y mae'r gweithiwr ar hyn o bryd?
  • A yw'r gweithiwr wedi cael ei atgyfeirio at Iechyd Galwedigaethol o'r blaen?

Addasiadau: Pa gymorth neu gefnogaeth a gynigiwyd neu a drefnwyd hyd yn hyn? Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau a roddwyd ar waith hyd yn hyn o fewn amserlenni yn ogystal ag unrhyw newidiadau y gellir eu rhoi ar waith yn y dyfodol.

  • Dychwelyd yn raddol
  • Dyletswyddau ysgafn

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ailatgyfeiriadau/diweddariadau:

  • Yr holl wybodaeth angenrheidiol am y gweithiwr ers yr apwyntiad diwethaf.
  • Unrhyw addasiadau sydd wedi'u rhoi ar waith, a'u hamserlenni ac unrhyw addasiadau pellach y gallwch/na allwch eu darparu.
  • Gwybodaeth am unrhyw gymorth ychwanegol a roddwyd ar waith.
  • Sicrhau bod cwestiynau'r ymgynghoriad yn berthnasol i'r wybodaeth rydych am ei chael o'r adroddiad a chyfrannu unrhyw gwestiynau ychwanegol yr hoffech gael atebion iddynt

*Nid yw Iechyd Galwedigaethol yn gwneud diagnosis o gyflyrau - meddygol neu niwroamrywiaeth, mae gennym gysylltiadau ynghylch cyngor ar asesiadau ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol a allai fod o gymorth.

O ran addasiadau rhesymol yn y gweithle, mae gan Iechyd Galwedigaethol ystod o chanllawiau a all gynorthwyo'r rheolwr a'r gweithiwr i weithio gyda'i gilydd ar yr hyn sy'n ofynnol yn y gweithle, i gynorthwyo'r gweithiwr i reoli ei gyflwr niwroamrywiaeth.

Bydd eich rheolwr yn llenwi ffurflen atgyfeirio electronig gyda chi neu'n rhoi gwybod i chi am y cynnwys a'r rheswm dros atgyfeirio. Yna caiff hon ei chyflwyno i'n Tîm Iechyd Galwedigaethol.

E-Ffurflen Atgyfeiriad (Mewnol)

E-Ffurlen Atgyferiad (I Gadeiryddion)

Sylwch: Fod mynediad i'r ffurflen Iechyd Galwedigaethol ar gyfer ysgolion
bellach wedi newid. Gallwch nawr ddefnyddio eich manylion
mewngofnodi Hwb trwy Azure i gyflwyno atgyfeiriad. I gofrestru ar gyfer
mynediad Azure dilynwch y cyfarwyddiadau PORTH

Nodyn i reolwyr: Os yw'r rheswm dros atgyfeirio yn ymwneud â straen, a fyddech cystal â chwblhau ffurflen Asesu Straen Unigol (.doc) yn gyntaf. Pan fydd yr holl gamau gweithredu cychwynnol wedi cael eu cytuno rhyngoch chi a'r gweithiwr, wedyn gellir cyflwyno'r wybodaeth hon yn adran Asesiad Straen Unigol y ffurflen atgyfeirio. 

 

Bydd Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn brysbennu eich atgyfeiriad ac yn cytuno ar gamau priodol, p'un a yw hyn yn golygu cael eich gweld gan Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol / Meddyg Iechyd Galwedigaethol / Ymarferwr Cymorth Lles.

Bydd apwyntiad yn cael ei drefnu o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr atgyfeiriad gan eich rheolwr. Byddwch chi a'ch rheolwr yn cael gwybod am yr apwyntiad hwn.

Os byddai atgyfeiriad at y Gwasanaeth Cymorth Llesiant yn briodol byddwch yn cael Holiadur Iechyd Cleifion a ffurflen asesu straen a gorbryder cyffredinol i'w llenwi cyn eich apwyntiad cychwynnol.

Byddwch yn cael deunydd darllen priodol yn ymwneud â'ch apwyntiad.

Yn ystod eich apwyntiad, caiff eich cydsyniad ei dderbyn a bydd adroddiad yn cael ei ysgrifennu a'i anfon nôl at eich rheolwr llinell drwy e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd eich rheolwr yn trafod yr adroddiad ac unrhyw argymhellion gyda chi.

Os ydych wedi bod i apwyntiad cymorth llesiant cychwynnol, bydd eich rheolwr yn cael gwybod eich bod wedi cael eich derbyn y gwasanaeth a dyddiad eich apwyntiad nesaf. Yn dilyn hyn dylech wedyn roi gwybod i'ch rheolwr am unrhyw apwyntiadau yn y dyfodol. Bydd eich rheolwr yn derbyn adroddiad rhyddhau pan fyddwch wedi cwblhau eich sesiynau.