Gwasanaeth Cymorth Llesiant
Mae'r gwasanaeth hwn ar eich cyfer chi os oes gennych anawsterau seicolegol a/neu gorfforol sy'n effeithio ar eich llesiant.
Gellir rhoi cefnogaeth i oresgyn yr anawsterau hyn gan ddefnyddio ystod o ymyriadau a strategaethau sy'n cynnwys:
- Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)/ Dull sy'n cael ei lywio gan CBT
- Cwnsela/ gwrando pwrpasol
- Sgiliau ymdopi a datrys problemau
Gallwch gael mynediad at y Gwasanaeth Cymorth Llesiant trwy atgyfeiriad gan eich rheolwyr a/neu argymhelliad gan y meddyg/ymgynghorydd. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys asesiad cychwynnol, ac yna hyd at 6 sesiwn os bydd angen, a bydd pob sesiwn wedi'i theilwra yn ôl eich anghenion.
Diweddarwyd y dudalen: 21/07/2020 12:14:05