Sesiynau Grŵp

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Mae sesiynau grŵp yn fuddiol pan fo sefyllfa anodd yn cael effaith negyddol ar fwy nag un o'ch gweithwyr. Gall hyn fod mewn cyfnod o newid neu ansicrwydd, megis ailstrwythuro yn y sefydliad neu arolygiadau o fewn ysgolion, yn ogystal â digwyddiadau yn y gweithle.

Mae sesiynau grŵp yn ceisio rhoi'r sgiliau i'ch staff allu rheoli ac ymdopi'n well â'r profiadau anodd y gallent fod yn delio â nhw ar yr adeg honno.

Cyn cyflwyno cais am unrhyw sesiwn grŵp i chi a'ch tîm. Byddem yn eich annog i ddarllen y canlynol yn gyntaf:

Os bydd digwyddiad, bydd y rhan fwyaf o unigolion yn ymateb yn gychwynnol, boed hynny'n sioc, yn brofedigaeth ac ati. Mae'n bwysig cydnabod bod y teimladau hyn yn normal ac yn naturiol ac nad oes angen ymyrraeth ar unwaith o reidrwydd. Fodd bynnag, byddem yn cynghori eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'ch tîm ac os bydd pryderon yn parhau, mae croeso i chi gyflwyno cais.

Os effeithiwyd ar forâl eich tîm oherwydd ailstrwythuro/ad-drefnu ac ati... lle da i ddechrau fyddai cynnal yr Asesiad Straen Unigol gyda phob un o'r tîm a mynd i'r afael ag unrhyw ganlyniadau, lle bo hynny'n bosibl. Ar ôl hynny, pe byddai cymorth pellach ac ymyriadau wedi'u targedu yn fuddiol, dylech lenwi'r ffurflen gais am Sesiwn Grŵp isod:

Os oes achosion ffurfiol ar waith h.y. Galluogrwydd/Disgyblu/Achwyniad ac ati... sicrhewch eich bod wedi ymgynghori â'r tîm adnoddau dynol ac wedi gofyn am gefnogaeth ar y mater cyn cyflwyno cais am sesiwn grŵp.

Oeddech chi'n gwybod bod llawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am eich llesiant eich hun a llesiant eich timau ar y tudalen Iechyd a Llesiant.

Os ydych yn credu y byddai sesiwn grŵp o fudd i'ch tîm, cyflwynwch ffurflen gais isod. Gofynnwn i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn i'n hymarferwyr greu sesiwn bwrpasol ar eich cyfer chi a'ch staff.

Ffurflen Gais Sesiwn Grŵp

Gellir gweld yr holl gostau ar gyfer sesiynau Grŵp ar ein tudalen Ffioedd, neu os mai ysgol ydych, nodir y rhain yn eich dogfen Cytundeb Lefel Gwasanaeth.