Rheoli Prosiectau

Diweddarwyd y dudalen: 23/10/2026

Rydym wedi datblygu dull corfforaethol o reoli prosiectau sydd wedi’i seilio ar arferion gorau’r sector. Rydym yn sylweddoli nad oes unrhyw ddull unigol sy’n gweddu i bob sefyllfa – yr hyn a geir yma felly yw set graidd o egwyddorion sydd wastad yn berthnasol.

Bydd prosiectau:

  • ynghlwm wrth raglen gorfforaethol a/neu’r Colofnau corfforaethol
  • bydd ganddynt Achos Busnes dilys
  • bydd ganddynt rolau a chyfrifoldebau sydd wedi’u diffinio’n glir yng nghyd-destun y prosiect
  • byddant yn diffinio’n glir gyd-ddealltwriaeth o’r hyn y mae’r prosiect am ei gyflawni, erbyn pryd a gyda pha adnoddau
  • byddant yn gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau ac arian
  • byddant yn cadw at drefniadau monitro a rheoli rheolaidd

Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio fel ei fod yn rhoi arweiniad i bawb sy’n ymwneud â phrosiect, yn egluro rolau a chyfrifoldebau ac yn darparu strwythur ar gyfer cynllunio a chyflenwi prosiectau a dod â nhw i ben. Mae wedi’i gynllunio fel bod modd ei ddefnyddio’n gymesur â maint prosiect; bydd y Matrics Math o Brosiect yn help ichi benderfynu ar lefel y cymorth rheoli i’w defnyddio ar eich prosiect.

Mae’r pecyn cymorth wedi cael ei fabwysiadu fel y dull corfforaethol o reoli prosiectau, a disgwylir i bob prosiect ei ddefnyddio. O dan amgylchiadau eithriadol efallai y gwnaiff y Prif Weithredwr neu Gyfarwyddwr gytuno nad yw’n bosibl neu’n briodol defnyddio prosesau’r pecyn cymorth. Pan na fydd y pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio, mae mwy o risg na fydd y prosiect yn cael ei gynllunio, ei fonitro a’i reoli’n drylwyr, a mwy o risg felly na fydd yn cyflawni’i amcanion. Dylai’r Prif Weithredwr neu’r Cyfarwyddwr awdurdodi’r eithriad drwy lofnodi’r Ffurflen Awdurdodi Peidio â Defnyddio’r Pecyn Cymorth Rheoli Prosiectau i sicrhau bod y risgiau wedi’u deall a’u derbyn. Dylid cadw’r Pro Forma wedi’i lofnodi yn ffeil y prosiect at ddibenion Archwilio.

Cafodd y pecyn cymorth ei ddylunio o amgylch y pedwar cyfnod Rheoli Prosiect canlynol; Datblygu Syniad, Datblygu’r Prosiect, Cyflenwi’r Prosiect ac Adolygu a Chau’r Prosiect. Mae Monitro a Rheoli yn digwydd gydol y Broses Rheoli Prosiect. Mae pob cyfnod wedi’i rannu’n gyfres o gamau ichi eu dilyn. Gellir ymgymryd â’r camau ym mhob cyfnod mewn trefn wahanol i’r un a gyflwynir yn y pecyn hwn.