Monitro a Rheoli

Diweddarwyd y dudalen: 02/06/2026

Mae’r Matrics Penderfyniadau Monitro a Rheoli yn rhoi arweiniad ichi o ran y lefel statws sy’n ofynnol wrth wneud penderfyniadau ar y Pwyntiau Rheoli mewn Prosiect.

Pwynt Rheoli – Cyfnod 1

Cymeradwyo’r PPF neu’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Bydd angen cymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth ac SASG o leiaf ar bob PPF i sicrhau cyllideb gyfalaf i’r prosiect. Mae angen cymeradwyaethau ychwanegol ar gyfer prosiectau TG a’r rhai lle mae Arian Allanol yn ofynnol (gweler y Siart Llif PPF)

Bydd angen i Achosion Busnes ar gyfer Prosiectau Sylfaenol (refeniw yn unig) gael cymeradwyaeth gan yr Uwch-reolwr o leiaf.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 2

Cymeradwyo’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Rhaid i’r Cynllun Busnes gael ei gymeradwyo gan yr Uwch-reolwr o leiaf.


Pwynt(iau) Rheoli – Diwedd pob Cyfnod Cyflenwi a/neu Garreg Filltir Allweddol (Cyfnod 3)

Monitro cynnydd a chymeradwyo parhau i’r cyfnod cyflenwi nesaf neu gau’r prosiect. Cael cymeradwyaeth derfynu i’r Prosiect

Os oes Bwrdd Prosiect, bydd angen iddo ef fonitro cynnydd y prosiect, rhoi cymeradwyaeth derfynol bod yr elfennau sydd i’w cyflenwi wedi’u cwblhau a rhoi cymeradwyaeth i barhau; lle nad oes Bwrdd Prosiect wedi’i benodi, yr Uwch-reolwr fydd yn gwneud hyn.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 4

Cadarnhad bod y prosiect wedi’i gau (a’i drosglwyddo)

Y Rheolwr Prosiect fydd yn cau’r prosiect, a bydd angen cadarnhad i gau gan yr Uwch-reolwr.


Penderfyniad Allweddol – Ar Unrhyw Gyfnod

Cymeradwyo newid Arwyddocaol i’r prosiect (y tu hwnt i’r terfynau hyblygrwydd)

Mae angen i newidiadau sy’n effeithio ar y Cynllun Busnes, costau’r prosiect neu’r hyn sydd i gael ei gyflenwi gan y prosiect gael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Prosiect, os oes un, neu yr Uwch-reolwr lle nad oes Bwrdd Prosiect wedi’i benodi. Nodwch: Os yw Prosiect yn cael Arian Allanol bydd angen ymgynghori â’r corff ariannu hefyd ynglŷn ag unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r prosiect.

Pwynt Rheoli – Cyfnod 1

Cymeradwyo’r PPF neu’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Bydd angen cymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth ac SASG o leiaf ar bob PPF i sicrhau cyllideb gyfalaf i’r prosiect. Mae angen cymeradwyaethau ychwanegol ar gyfer prosiectau TG a’r rhai lle mae Arian Allanol yn ofynnol (gweler y Siart Llif PPF).

Bydd angen i Achosion Busnes ar gyfer Prosiectau Gweithredol (refeniw yn unig) gael cymeradwyaeth gan yr Uwch-reolwr o leiaf.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 2

Cymeradwyo’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Rhaid i’r Cynllun Busnes gael ei gymeradwyo gan y Pennaeth Gwasanaeth o leiaf.


Pwynt(iau) Rheoli – Diwedd pob Cyfnod Cyflenwi a/neu Garreg Filltir Allweddol (Cyfnod 3)

Monitro cynnydd a chymeradwyo parhau i’r cyfnod cyflenwi nesaf neu gau’r prosiect. Cael cymeradwyaeth derfynu i’r Prosiect

Os oes Bwrdd Prosiect, bydd angen iddo ef fonitro cynnydd y prosiect, rhoi cymeradwyaeth derfynol bod yr elfennau sydd i’w cyflenwi wedi’u cwblhau a rhoi cymeradwyaeth i barhau; lle nad oes Bwrdd Prosiect wedi’i benodi, y Pennaeth Gwasanaeth fydd yn gwneud hyn.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 4

Cadarnhad bod y prosiect wedi’i gau (a’i drosglwyddo)

Y Rheolwr Prosiect fydd yn cau’r prosiect, a bydd angen cadarnhad i gau gan y Pennaeth Gwasanaeth.


Penderfyniad Allweddol – Ar Unrhyw Gyfnod

Cymeradwyo newid Arwyddocaol i’r prosiect (y tu hwnt i’r terfynau hyblygrwydd)

Mae angen i newidiadau sy’n effeithio ar y Cynllun Busnes, costau’r prosiect neu’r hyn sydd i gael ei gyflenwi gan y prosiect gael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Prosiect, os oes un, neu y Pennaeth Gwasanaeth lle nad oes Bwrdd Prosiect wedi’i benodi. Nodwch: Os yw Prosiect yn cael Arian Allanol bydd angen ymgynghori â’r corff ariannu hefyd ynglŷn ag unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r prosiect.

Pwynt Rheoli – Cyfnod 1

Cymeradwyo’r PPF neu’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Bydd angen cymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth ac SASG o leiaf ar bob PPF i sicrhau cyllideb gyfalaf i’r prosiect. Mae angen cymeradwyaethau ychwanegol ar gyfer prosiectau TG a’r rhai lle mae Arian Allanol yn ofynnol (gweler y Siart Llif PPF). Dylai cymeradwyaeth i barhau i ddatblygu Prosiect Strategol (h.y. cychwyn ar Gyfnod 2) gael ei chyfeirio at y Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Bwrdd Gweithredol am gymeradwyaeth ar ôl i SASG gymeradwyo’r PPF. 

Bydd angen i Achosion Busnes ar gyfer Prosiectau Strategol (refeniw yn unig) gael cymeradwyaeth gan y Tîm Rheoli Corfforaethol a’r Bwrdd Gweithredol.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 2

Cymeradwyo’r Achos Busnes, cymeradwyaeth i barhau

Rhaid i’r Cynllun Busnes gael ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol o leiaf.


Pwynt(iau) Rheoli – Diwedd pob Cyfnod Cyflenwi a/neu Garreg Filltir Allweddol (Cyfnod 3)

Monitro cynnydd a chymeradwyo parhau i’r cyfnod cyflenwi nesaf neu gau’r prosiect. Cael cymeradwyaeth derfynu i’r Prosiect

Bydd angen i’r Bwrdd Prosiect fonitro cynnydd y prosiect, rhoi cymeradwyaeth derfynol bod yr elfennau sydd i’w cyflenwi wedi’u cwblhau a rhoi cymeradwyaeth i barhau.


Pwynt Rheoli – Diwedd Cyfnod 4

Cadarnhad bod y prosiect wedi’i gau (a’i drosglwyddo)

Y Rheolwr Prosiect fydd yn cau’r prosiect, a bydd angen cadarnhad i gau gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.


Penderfyniad Allweddol – Ar Unrhyw Gyfnod

Cymeradwyo newid Arwyddocaol i’r prosiect (y tu hwnt i’r terfynau hyblygrwydd)

Mae angen i newidiadau sy’n effeithio ar y Cynllun Busnes, costau’r prosiect neu’r hyn sydd i gael ei gyflenwi gan y prosiect gael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Prosiect; gellir cyfeirio argymhellion at y Tîm Rheoli Corfforaethol i’w cymeradwyo os yw’r Bwrdd Prosiect o’r farn fod angen gwneud hynny. Nodwch: Os yw Prosiect yn cael Arian Allanol bydd angen ymgynghori â’r corff ariannu hefyd ynglŷn ag unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r prosiect.