Cyfnod 4: Adolygu a Chau’r Prosiect
Diweddarwyd y dudalen: 02/06/2026
Un o brif nodweddion prosiect yw ei fod yn digwydd o fewn terfynau; mae iddo ddyddiad gorffen. Os bydd prosiect yn colli hyn mae’n dod yn gweithgaredd gweithredol neu’n weithgaredd busnes fel arfer.
Daw diwedd prosiect pan fydd y gwaith o gyflenwi cynnyrch / amcanion prosiect wedi’i gyflawni neu os caiff y prosiect ei gau’n gynnar ar gyfarwyddyd y Noddwr Prosiect neu’r Bwrdd Prosiect. Ar ddiwedd prosiect mae angen ichi dacluso unrhyw elfennau gweithdrefnol sydd heb eu cwblhau, adolygu’r profiad a chrisialu’r hyn sydd wedi’i gyflawni a’r gwersi a ddysgwyd. Nid oes angen i’r cyfnod hwn fod yn un sy’n mynd â llawer o amser, ond mae serch hynny yn bwysig.
Erbyn diwedd y cyfnod hwn dylai’r Prosiect fod wedi’i gwblhau ac wedi’i drosglwyddo i gyfnod gweithredol (os yw’n briodol). Bydd y Bwrdd Prosiect wedi cadarnhau bod y prosiect wedi dod i ben a bydd y prosiect wedi cael ei adolygu er mwyn cipio’r buddion, y gwersi a phrofiadau perthnasol eraill.
Cyfeiriwch yn ôl at Gynllun Busnes cyfredol y prosiect; ydy’r prosiect wedi cyflawni’i nodau a’i amcanion? Os nad yw, pam?
Gall risgiau a materion prosiect barhau y tu hwnt i gyflenwi cynnyrch y prosiect. Adolygwch unrhyw Risgiau a Materion sy’n weddill ac un ai rhowch derfyn arnynt neu dyrannwch nhw i unigolyn priodol iddo barhau i’w monitro.
Mae angen i’r hyn y mae prosiect wedi’i gyflawni gael ei gipio gan y tîm prosiect. Nid dim ond cyflawni targedau cynnyrch y prosiect a chynhyrchu’r hyn oedd fod i gael ei gyflenwi yw cyflawniadau – mae cyflawniadau’n golygu buddion ac effaith y prosiect, ystyriwch pa wahaniaeth y mae’r prosiect wedi’i wneud. Mae’n bwysig fod llwyddiannau’n cael eu cydnabod a’u rhannu gyda rhanddeiliaid.
Dylai Gwersi a Ddysgwyd fod wedi’u cipio gan y tîm prosiect gydol cyfnodau datblygu a chyflenwi’r prosiect. I fod o fudd, mae angen i’r gwersi hyn gael eu rhannu ag eraill a dylent gael eu cofnodi yn y ddogfen adolygu ôl-gwblhau (gweler isod), a’u copïo ar y Ffurflen Gau.
Dylai ffeiliau prosiect fod wedi cael eu cynnal gydol y cyfnodau datblygu a chyflenwi. Mae angen cau’r ffeiliau hyn a’u storio’n briodol mewn modd sy’n bodloni gofynion y corff ariannu/archwilio a’r gofynion rheoleiddio.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd prosiect yn symud i gyfnod gweithredol a bod angen ei drosglwyddo i’r adran neu’r is-adran berthnasol i gael ei reoli. Mae angen i wybodaeth am y prosiect, cyfarwyddiadau gweithredol/gweithdrefnol ac unrhyw faterion/risgiau sy’n dal i fodoli gael eu trosglwyddo i’r tîm gweithredu neu’r maes gwasanaeth.
Os caiff prosiect ei gau cyn i’r holl fuddion / canlyniadau gael eu gwireddu, mae angen enwi unigolyn a fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am fynd ar drywydd canlyniadau a buddion yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd prosiect wedi cael arian allanol a fydd yn cael ei fonitro gan y corff ariannu.
Mae angen i’r Bwrdd Prosiect gytuno’n ffurfiol i gau’r prosiect.
Cynhelir yr Adolygiad Ôl-gwblhau ar ôl i fuddion y prosiect gael eu gwireddu. Gallai hyn fod beth amser ar ôl cwblhau’r prosiect, ond ni ddylid anghofio amdano. Mae’n gyfle i asesu’r buddion sydd wedi’u cyflawni (rhai disgwyliedig ac annisgwyl), problemau a allai fod wedi codi ac adwaith y defnyddiwr i ganlyniad y prosiect. Mae hefyd yn gyfle i wneud argymhellion o ran datblygu i’r dyfodol.
Mwy ynghylch Rheoli Prosiectau
