Ailgylchu yn y Gweithle
Diweddarwyd y dudalen: 20/04/2026
Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i wahanu deunyddiau penodol er mwyn eu hailgylchu.
Mae'r rheolau hefyd yn gymwys i gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff o weithleoedd.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r newidiadau hyn i wella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff a gaiff ei ailgylchu o weithleoedd ac i wella cysondeb yn y ffordd yr ydym yn casglu a gwahanu gwastraff.
Bydd hefyd angen i weithleoedd wahanu eu cyfarpar trydanol gwastraff bach i'w hailgylchu o 6 Ebrill 2026.
Pa wastraff sydd angen ei wahanu?
Dylid gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu, a'u casglu ar wahân:
- papur a chardbord
- metel, plastig a chartonau
- bwyd
- gwydr
- cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE)
Mae’n rhaid i eitemau fod yn lân ac yn wag. Ni fyddwch yn gallu ailgylchu rhai eitemau y mae modd i chi ailgylchu gartref e.e. ffilm blastig a hambyrddau bwyd plastig du. Gwiriwch ein rhestr Ailgylchu A-Y i weld beth mae modd ei ailgylchu a pha fin dylid ei ddefnyddio.
Mae gwaharddiad hefyd ar:
- Anfon gwastraff bwyd i garthffos (unrhyw swm)
- Gwastraff a gesglir ar wahân yn cael ei losgi a mynd i safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren yn mynd i safleoedd tirlenwi
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r gyfraith newydd a gellir rhoi dirwyon am beidio â chydymffurfio.
Cyfrifoldeb pawb yw rhoi'r gwastraff cywir yn y bin sydd wedi'i labelu'n gywir. Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin - rhaid i chi ddidoli'ch gwastraff yn iawn.
Gallai methu â chydymffurfio â'r gyfraith olygu dirwy.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithle.
Mwy ynghylch Ailgylchu yn y Gweithle



