Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen: 11/04/2024

O ystyried y pwysau ariannol ar hyn o bryd ar gyllidebau'r Cyngor ac ysgolion, penderfynwyd defnyddio'r seilwaith biniau presennol. Bydd angen addasu ac ail-labelu'ch biniau mewnol presennol gan ddefnyddio labeli a ddarperir gan y Cyngor.

Mae mynd i'r afael â phryderon o'r fath yn fater mewnol, i'w drafod rhwng gweinyddiaeth yr ysgol ac unrhyw reolwyr arlwyo perthnasol.

Mae'r rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd yn berthnasol i bob safle yn ei gyfanrwydd, felly mae'r holl staff, athrawon ac arlwywyr fel ei gilydd, yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad y rheoliadau newydd a chydymffurfiaeth â nhw.

Y cyngor i ysgolion yw penodi cydlynydd gwastraff i gwmpasu pob rhan o'r ysgol gan gynnwys unrhyw gegin/neuadd fwyta a mannau allanol ar dir yr ysgol. Bydd angen i'r person hwn gael manylion contract gwastraff presennol yr ysgol a gweithredu fel swyddog cyswllt gyda phersonél a chontractwyr yr ysgol.

Nid yw'r gwaharddiad ar wastraff bwyd sy'n mynd i garthffosydd yn berthnasol i hylifau.

O dan y rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i wahanu gwastraff i'r categorïau canlynol i'w gasglu:

  • Papur a chardbord
  • Metel, plastig a chartonau
  • Bwyd
  • Gwydr

Er mwyn ailgylchu gwastraff yn gywir, mae'n rhaid gwaredu ohono unrhyw fwyd neu hylif sy'n weddill, ac mae'n rhaid bod yr eitemau'n rhesymol o lân. Bydd lleihau'r gwastraff na ellir ei ailgylchu yn lleihau costau gan fod casgliadau ailgylchu yn llai costus na chasgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu.  Os yw'r math anghywir o fin ar gyfer y gwastraff yn cael ei ddefnyddio, neu os caiff gwastraff halogedig ei roi allan i'w gasglu, gall eich contractwr adael eich gwastraff heb ei gasglu.

Mae'r holl staff, athrawon ac arlwywyr fel ei gilydd, yn gyfrifol am sicrhau bod y rheoliadau newydd yn cael eu gweithredu a'u dilyn.

Mae Llywodraeth Cymru am wella ansawdd y gwaith ailgylchu a chynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu o weithleoedd. Mae hwn yn gam pwysig arall tuag at fod yn ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae angen i ni barhau i ddefnyddio deunyddiau cyhyd ag y bo modd. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi. Er enghraifft, drwy osgoi treth tirlenwi a chreu cyfleoedd gwaith. Cymru yw'r gorau eisoes yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r trydydd gorau yn y byd. Mae'r gyfraith newydd yn cefnogi'r camau gweithredu o'r strategaeth economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu.

Mae'n rhaid gwahanu'r holl wastraff i'r pum categori canlynol:

  • Plastig, cartonau a metel
  • Papur a cherdyn cymysg
  • Gwastraff bwyd
  • Poteli a jariau gwydr
  • Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Nid yw'n ymarferol cael 5 bin ym mhob ystafell, felly mae llawer o finiau unigol wedi'u gwaredu ac mae mannau ailgylchu canolog wedi'u sefydlu. Nid oes unrhyw adnoddau ar gyfer biniau newydd, felly rydym wedi ail-labelu biniau presennol ac mae cynwysyddion dros ben yn cael eu hailddosbarthu ar draws yr awdurdod. Mae posteri mewn lle i'ch cyfeirio at eich man ailgylchu agosaf. Mewn mannau cynhyrchu gwastraff penodol e.e. llungopïwr/argraffwyr, bydd bin papur/cerdyn fel arfer yn cael ei osod yn yr ardaloedd cymunedol hynny hefyd. Nid yw bellach yn rhesymol cael biniau o dan ddesgiau ym mhob ystafell, felly mae'r rhain yn cael eu gwaredu i wneud dyletswyddau glanhäwr/gofalwr yn fwy effeithlon.

Gallwch ar y cyfan, ond mae rhai newidiadau. Mae'r categorïau gwastraff newydd a'r hyn y gellir ei gynnwys ynddynt yn rhan o lasbrint casgliadau y Llywodraeth. Ni ellir cymysgu rhai eitemau fel ffilm blastig â phlastigau eraill mwyach, gweler y rhestr ailgylchu A-Y ar y fewnrwyd fel canllaw ar gyfer beth i'w osod ble.

Mae mannau biniau eisoes wedi'u creu yn y rhan fwyaf o adeiladau. Nid oes cyllideb ar gyfer biniau newydd, felly mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r hyn sydd gennym eisoes. Cysylltwch â'ch staff glanhau/gofalwr cyn gosod unrhyw gynwysyddion ychwanegol. Os oes angen rhagor o finiau arnoch yn dilyn y trafodaethau hynny, cysylltwch â ni: workplacerecycling@sirgar.gov.uk i weld a allwn ddod o hyd i unrhyw gynwysyddion dros ben i chi.

Mae biniau wedi'u diweddaru gydag arwyddion newydd ac mae posteri wedi'u gosod yn y rhan fwyaf o leoliadau. Os oes angen rhagor arnoch, cysylltwch â ni: workplacerecycling@sirgar.gov.uk a defnyddiwch y codau canlynol i ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch:

BSM Sticer bin mewnol A3 portread - categori metel, plastig a chartonau
BSP Sticer bin mewnol A3 portread – categori papur a chardbord
BSGW Sticer bin mewnol A4 portread – gwastraff cyffredinol
BSG Sticer bin mewnol A6 portread - categori gwydr
BSF Sticer bin mewnol A6 portread - categori bwyd
PBS Poster A3 Man biniau
PWMB Poster A4 Ble mae fy min? – ar gyfer ardaloedd lle mae biniau'n cael eu gwaredu
LBM Sticer bin sbwriel allanol - categori metel, plastig a chartonau
LBG Sticer bin sbwriel allanol – gwastraff cyffredinol

Os yw'r bin sbwriel yn eich safle, yna caiff ei gynnwys yn y rheoliadau a rhaid didoli unrhyw wastraff sy'n cael ei roi ynddo yn y 5 categori:

  • Plastig, cartonau a metel
  • Papur a cherdyn cymysg
  • Gwastraff bwyd
  • Poteli gwydr a jariau
  • Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Os oes angen i chi ddiweddaru unrhyw finiau sbwriel presennol, mae gennym y sticeri canlynol i'ch helpu i ail-labelu'ch biniau:

LBM Sticer bin sbwriel allanol - categori metel, plastig a chartonau
LBG Sticer bin sbwriel allanol – gwastraff cyffredinol

Gallwch ofyn am y rhain drwy ein blwch post: workplacerecycling@sirgar.gov.uk

Nid yw biniau sbwriel ar y stryd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau newydd.

Hyd yn oed os mai dim ond jariau coffi sydd gennych, ni ellir cymysgu'r rhain â gwastraff arall. Dylai casglwyr gwastraff allu darparu casgliadau llai aml neu wasanaethau ar gais ar gyfer y deunydd hwn.

Mae'r rheoliadau'n nodi mai dim ond gwastraff bwyd o safle sy'n cynhyrchu 5 cilogram neu fwy o wastraff bwyd mewn saith diwrnod yn olynol sy'n gorfod ei wahanu i'w gasglu.

Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb am y gwastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu yn y gweithle yn ogystal ag yn y cartref. Gweler ein rhestr ailgylchu A-Y fel canllaw - mae rhai gwahaniaethau o ran yr hyn rydym yn ailgylchu gartref.

Os oes gormod o'r math anghywir o wastraff yn y bin, yna efallai na fydd y contractwr gwastraff ar gyfer eich safle yn gallu casglu'r gwastraff neu efallai y bydd yn rhaid iddo godi ffi uwch i'w gasglu fel gwastraff cyffredinol. Os bydd hyn yn parhau, gallai'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, roi dirwy yn uniongyrchol i'r safle.

Bydd rhaid i dimau'r gwasanaeth glanhau adolygu a diwygio'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) ar gyfer Ebrill 2024 i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau newydd ar gyfer Ailgylchu yn y Gweithle. Mae'r Cyngor yn argymell bod yr amser sy'n cael ei neilltuo ar gyfer gwacáu biniau ailgylchu yn cael ei ddiwygio yn seiliedig ar nifer y biniau ychwanegol, a bod hyn yn cael ei ystyried yn y CLG.

Drwy leihau biniau gwastraff na ellir eu hailgylchu (bagiau du) efallai y bydd gan lanhawyr fwy o amser i wacáu biniau ailgylchu canolog. Bydd glanhawyr yn parhau i ddarparu bagiau du ar gyfer y gwastraff gweddilliol (na ellir ei ailgylchu) y tu mewn i'r ysgol, fel rhan o'u gwasanaeth. Os nad yw'r rhain yn cael eu darparu ar hyn o bryd o fewn eich CLG, siaradwch â'r gwasanaethau glanhau i drefnu hyn. 

Mae gan ysgolion drefniadau gwahanol o ran pwy sy'n gwacáu'r biniau gwahanol, felly bydd angen i chi drafod y newidiadau â'r holl bartïon dan sylw.

Llwythwch mwy