Prosiect Zero Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen: 14/12/2023

Ym mis Chwefror 2019, roeddem ni un o'r awdurdodau lleol cyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a gwnaethom ymrwymo i fod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.

Ers hynny, ni yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu carbon sero-net a gymeradwywyd gan y cyngor llawn ym mis Chwefror 2020.

Bydd Prosiect Zero Sir Gâr yn tynnu sylw at bob ymdrech sy'n parhau i gael ei gwneud wrth i ni weithio tuag at fod yn awdurdod cwbl garbon niwtral erbyn 2030.

Er mwyn cyflawni hyn mae angen i chi i gyd gymryd rhan a chwarae eich rhan - bydd pob ymdrech a newid a wneir - boed yn fawr neu'n fach - yn helpu tuag at y gofyniad i ddod yn garbon sero-net.