Ein Nod

Diweddarwyd y dudalen: 29/12/2023

Mae Prosiect Zero Sir Gâr yn galw ar staff (a'r cyhoedd) i wneud newidiadau, rhannu syniadau, a dechrau sgyrsiau gartref, mewn siopau a swyddfeydd, mewn ystafelloedd dosbarth ac ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pawb i gydweithio i daclo newid hinsawdd.

Bydd plant ysgol yn cael eu hannog i fod yn Archarwyr Prosiect Zero drwy ddysgu am y mater a chymryd camau cadarnhaol yn yr ysgol ac yn eu cartrefi i helpu i ddiogelu'r blaned ar gyfer eu dyfodol.

Mae'n cynnwys popeth o sicrhau bod pob prosiect adeiladu newydd mawr megis cartrefi ac ysgolion yn effeithlon o ran ynni ac yn ymgorffori ynni adnewyddadwy, ail-ffitio adeiladau hŷn gydag ystod eang o fesurau arbed ynni, gan gynnwys paneli solar ffotofoltäig, gosod goleuadau LED newydd, rheolyddion goleuadau, inswleiddio pibellau, gwella adeiladwaith adeiladau, uwchraddio boeleri a thechnoleg arbed dŵr a gwres.

Yn ogystal â chaffael yr holl drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy, rydym hefyd wedi ymdrechu mewn ffyrdd eraill i leihau allyriadau carbon gan gynnwys newid goleuadau stryd i olau LED ynni isel ac uwchraddio ei fflyd i gynnwys ceir trydan a cherbydau sbwriel a graeanu sy'n fwy effeithlon o ran ynni.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu os hoffech rannu'r hyn rydych yn ei wneud i annog eraill i chwarae eu rhan, rhannwch nhw ar y tudalennau hyn