Astudiaethau Achos a Straeon Llwyddiant

Diweddarwyd y dudalen: 24/11/2023

Ers 1970, mae Diwrnod y Ddaear yn cael ei nodi bob blwyddyn ar draws y byd, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod yr amgylchedd naturiol, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu adnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Yn unol â'r thema ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2023, sef 'Buddsoddi yn ein planed', mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi buddsoddi ei amser, ei adnoddau a'i egni i wella amgylchedd y sir a chyfrannu at yr achos byd-eang i lliniaru effaith newid hinsawdd. Dyma ychydig o enghreifftiau o sut yr ydym yn buddsoddi yn ein planed.

Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith yng Nghanolfan Ddysg Caerfyrddin er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni a sicrhau lleihad o 76% yn ei hallyriadau carbon. Mae mesurau ôl-osod sy'n cynnwys insiwleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl, a gwelliannau i doeau wedi'u gweithredu er mwyn cadw mwy o wres yn yr adeilad. Nid yw'r Ganolfan Ddysg bellach yn ddibynnol ar gyflenwad nwy gan fod Paneli Haul a Phwmp Gwres o'r Awyr yn darparu ynni a gwres i'r adeilad. Mae goleuadau LED effeithlon o ran ynni hefyd wedi'u gosod.

Nid yn unig y mae'r gwaith uwchraddio wedi lleihau'r effaith yr adeilad ar yr amgylchedd, mae hefyd wedi gwella'r cysur a'r profiad i'r rhai sy'n gweithio ac yn dysgu yn yr adeilad.

Er mwyn helpu i wella amgylchedd Awdurdod Sir Caerfyrddin a chynyddu bioamrywiaeth, trefnodd Tîm Cadwraeth Wledig ac Adran Eiddo y Cyngor i blannu dros 8,000 o goed llydanddail brodorol i greu 4.5 hectar o goetir newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhre-gib (Llandeilo), Pendre (Cydweli) a Maesdewi (Llandybïe). Cynhaliwyd diwrnodau plannu cymunedol, gan gynnwys diwrnod ar gyfer disgyblion o Ysgol Gynradd Llandybïe, mewn dau o'r lleoliadau.

Wrth i goed dyfu a ffotosyntheseiddio, byddant yn gwaredu allyriadau carbon o'r atmosffer. Bydd y coetiroedd newydd hyn yn gynefinoedd newydd i fywyd gwyllt ac felly'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur ac yn dod yn fannau lle gall pobl fwynhau byd natur.

Mae cynlluniau wedi'u creu gan Dîm Cadwraeth y Cyngor, gyda chymorth yr Ardd Fotaneg, ar gyfer Meithrinfa Goed a thiroedd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt gael eu datblygu yng Nghanolfan Ddydd Tre Ioan. Gyda chymorth ariannol gan gynllun cyllido 'Lleoedd ar gyfer Natur', bydd yr ardd yn cynnwys ardal dyfu yn yr awyr agored a gardd synhwyraidd hygyrch, gardd goetir, gardd gors, ardaloedd dolydd a pherllan. Er bod y prosiect yn cael ei gynnal yng nghanolfan Tre Ioan, bydd yn cynnwys yr holl wasanaethau dydd drwy gasglu a phlannu hadau brodorol. Mae yna gynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal prosiect tebyg yng Nghanolfan Ddydd Ffordd y Faenor. Bydd yr ardd nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth yr ardal, ond bydd hefyd yn ofod diogel a hygyrch i bawb ei fwynhau.

Dros nifer o flynyddoedd, ar draws Prydain, bu dirywiad enfawr mewn pryfed sy'n peillio ein blodau gwyllt, a'n cnydau, a elwir hefyd yn bryfed peillio. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried ffyrdd o reoli glaswelltir fydd yn ei wneud yn gyfoethocach mewn blodau gwyllt ac yn fwy deniadol i bryfed peillio. Yn syml, drwy dorri'n llai aml, gall blodau sydd eisoes yn tyfu yn y gwair flodeuo a hefyd cefnogi pryfed. Does dim angen hau hadau blodau gwyllt. Yr haf diwethaf, arbrofodd y Cyngor gyda'r dull newydd hwn a chafodd groeso brwd gan breswylwyr a oedd yn mwynhau gweld y glaswelltiroedd llawn blodau.