Economi Gylchol

Diweddarwyd y dudalen: 14/12/2023

Mae'r Economi Gylchol yn fodel cynhyrchu lle mae deunyddiau a chynhyrchion presennol yn parhau i gael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd.

Egwyddor graidd yr Economi Gylchol yw gwyro i ffwrdd o fod yn gymdeithas dafladwy lle rydym yn 'cymryd, gwneud a gwaredu' ac yn hytrach, cyflwyno model cymdeithasol o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Gellir cyflawni hyn drwy ddylunio llygredd a gwastraff allan o'n systemau, gan sicrhau bod cynhyrchion a deunyddiau yn parhau i gael eu defnyddio yn lle cael eu gwaredu a thrwy adfywio systemau naturiol.

Trwy wneud hyn, yn ogystal â lleihau gwastraff, rydym hefyd yn lleihau'r allyriadau a gynhyrchir trwy weithgynhyrchu a'r posibilrwydd o redeg allan o adnoddau cyfyngedig, gan sicrhau cymdeithas fwy cynaliadwy.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, partneriaid diwydiant a'r trydydd sector yn gyrru'r agenda hon ymlaen yn Ne Cymru gyda'u rhaglen CEIC.

Mae'r rhaglen hon a ariennir yn llawn yn cefnogi'r sector cyhoeddus a busnesau i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r economi gylchol a'u cynlluniau arloesi i gefnogi twf glân.

Mae llawer o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn ffodus i gymryd rhan yn y cwrs hwn a gweithredu prosiectau economi gylchol yn eu meysydd gwasanaeth.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Hyfforddai Graddedig, Lucy, yn yr Economi Gylchol, Strategaeth a Pholisi Gwastraff.