Rheoli Risg

Diweddarwyd y dudalen: 29/04/2024

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddull rhagweithiol o reoli risg er mwyn sicrhau bod y broses yn cael ei gwreiddio. Bydd adnabod ac asesu'r risgiau yn glir yn arwain at ddefnydd mwy effeithiol o adnoddau a gwelliannau uniongyrchol i'r gwasanaeth i'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid, yn ogystal â gwella llywodraethu corfforaethol a pherfformiad.

Drwy fod yn fwy ymwybodol o risg, bydd y Cyngor mewn sefyllfa well i reoli bygythiadau a manteisio ar gyfleoedd. Mae gan y Cyngor Gofrestr Risg Gorfforaethol sy'n amlygu'r risgiau strategol sy'n wynebu'r Cyngor. Yn ogystal, mae Cyfarwyddiaeth a Phrosiectau yn llunio cofrestrau risg sy'n cofnodi ac yn monitro eu risgiau; sydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Nod yr Uned yw lleihau colledion cyffredinol i'r Awdurdod drwy fonitro profiadau mewnol ac allanol a datblygu a gweithredu mentrau rhagweithiol i leihau amlygiad yr Awdurdod i'r ystod amrywiol o risgiau sy'n wynebu Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r Uned Rheoli Risg yn sicrhau bod risgiau strategol a gweithredol yn cael eu hadnabod a'u rheoli'n llawn gan yr Awdurdod ac fel rhan o'r rheolaeth hon mae'n trefnu ac yn rheoli portffolio Yswiriant priodol gyda'r bwriad o amddiffyn yn erbyn costau annisgwyl.