Man gweithio achlysurol
Diweddarwyd y dudalen: 05/02/2024
Mae'r mannau gweithio achlysurol yn ein hadeiladau strategol allweddol a lleoliadau ychwanegol (llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden) ar gael ar draws y sir lle gallwch alw heibio a gweithio pan fyddwch yn yr ardal neu er mwyn gweithio rhwng cyfarfodydd.
Mae gan y dudalen hon wybodaeth am bob lleoliad. Gallwch bori fesul tref i ddod o hyd i'n mannau gweithio achlysurol a pha gyfleusterau sydd ar gael ym mhob lleoliad.
Mae gennym hefyd leoliadau ychwanegol ar draws y sir nad ydynt yn adeiladau swyddfa traddodiadol lle gallwch alw heibio i weithio. Mae'r mannau gweithio achlysurol eraill hyn yn cynnwys ein canolfannau hamdden a'n llyfrgelloedd.
Mae'r safleoedd hyn i gyd yn cynnwys WIFI. Er efallai nad oes gan rai o'r lleoliadau yr holl adnoddau ar hyn o bryd, mae'r ardaloedd ar agor ar sail y cyntaf i'r felin.
Yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i'r galw gynyddu, byddwn yn cyflwyno gwell system archebu er mwyn i chi gadw lle yn y mannau gweithio a sicrhau eu bod yr cynnwys yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Dylid cofio bod y mannau hyn yn fannau corfforaethol ac ar gael i bawb.
*Mae amserau agor rhai lleoliadau yn ein llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn gyfyngedig, gweler y map ar gyfer amserau mynediad.