Sut y mae’r gyfraith yn effeithio ar eich ysgol
Diweddarwyd y dudalen: 20/05/2026
Mae rhwymedigaeth ar ysgolion i wahanu eu gwastraff yn gategorïau penodol. Mae hyn yn cynnwys gwastraff a gasglwyd yn unrhyw le o fewn adeiladau'r ysgol, gan gynnwys ffreuturau a hyd yn oed y tu allan i'r ysgol.
Pa wastraff sydd angen ei wahanu?
Dylid gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu, a'u casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a chardbord
- Gwydr
- Metel, plastig a chartonau
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE)
O ystyried y pwysau ariannol ar hyn o bryd ar gyllidebau'r Cyngor ac ysgolion, penderfynwyd defnyddio'r seilwaith biniau presennol. Bydd angen addasu ac ail-labelu'r biniau mewnol presennol gan ddefnyddio labeli a ddarperir gan y Cyngor.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch darparwr casglu gwastraff i ganfod sut y gall eich helpu i gydymffurfio â'r gyfraith. Gallan nhw gynnig leinin biniau mewnol a chynwysyddion ar gyfer mathau penodol o wastraff.
Ystyriwch osod man biniau canolog mewn coridorau neu ardaloedd cymunedol yn lle biniau unigol mewn ystafelloedd dosbarth. Mae'r newid hwn yn arbed arian ac amser gan ei bod yn haws gwacáu biniau mewn un lleoliad yn hytrach nag mewn sawl ystafell ddosbarth. Hefyd, mae'n rhyddhau lle gan na fydd angen biniau arnoch ym mhob ystafell.
Sut allwn ni eich cefnogi chi:
Mae Tîm Gwastraff y Cyngor wrth law i'ch cefnogi o ran rhoi cyngor a deunyddiau. Gallwn ddarparu'r eitemau canlynol:
- Arwyddion ar gyfer eich biniau mewnol, gan ddefnyddio eiconograffi ffrwd wastraff a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer y categorïau newydd
- Posteri mannau biniau
- Posteri cyffredinol ynghylch pam y mae biniau wedi'u hadleoli
- Arwyddion ar gyfer biniau sbwriel mewn meysydd chwarae ar gyfer y categori metel, plastig a chartonau a'r categori gwastraff cyffredinol
Anfonwch e-bost aton ni: TSAilgylchu@sirgar.gov.uk
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Y Busnes o Ailgylchu Cymru - canllawiau ar gyfer y sector addysg
Mwy ynghylch Ailgylchu yn y Gweithle
