Gwrthod Arolygiad Iechyd

Diweddarwyd y dudalen: 14/07/2020

Mae Arolygu Iechyd yn ymwneud â rhoi gweithdrefnau systematig, rheolaidd a phriodol yn eu lle i ddatgelu arwyddion cynnar o salwch sy’n gysylltiedig â gwaith ar gyfer gweithwyr sydd wedi dod i gysylltiad â risgiau iechyd penodol; a gweithredu ar y canlyniadau.

Amcanion arolygu iechyd yw:

  • Diogelu eich iechyd drwy ddatgelu newidiadau niweidiol posibl cyn gynted â phosibl, a allai gael eu hachosi drwy ddod i gysylltiad â sylweddau peryglus sy’n niweidiol i iechyd;
  • Helpu i werthuso’r mesurau a gymerir i reoli dod i gysylltiad â dirgrynu;
  • Casglu, diweddaru a defnyddio data a gwybodaeth i bennu a chloriannu peryglon iechyd.

Pan fyddwn yn y gwaith, mae gan bob un ohonom gyfrifoldebau i sicrhau ein bod yn cynnal ein gweithgareddau yn ddiogel. Mae mynychu eich Apwyntiad Arolygu Iechyd yn hanfodol i’ch iechyd chi yn ogystal ag iechyd eich cydweithwyr.

Gwrthod cymryd rhan mewn Arolygu Iechyd

Os byddwch yn gwrthod Arolygu Iechyd, dylai eich rheolwr egluro’r gofyniad yn llawn i chi o ran deall yr angen am Arolygu Iechyd a’i manteision.

Os byddwch yn parhau i wrthod cymryd rhan mewn Arolygu Iechyd pan fyddwch yn yr Uned Iechyd Galwedigaethol, gofynnir i chi adael, a rhoddir gwybod i chi y byddwn yn cysylltu â’ch rheolwr i egluro’r sefyllfa.

Bydd yr ymarferydd Iechyd Galwedigaethol yn rhoi gwybod i’ch rheolwr eich bod wedi gwrthod cymryd rhan yn y rhaglen, ac na fydd yn gallu darparu argymhelliad i’ch rheolwr o’ch gallu i barhau i weithio.

Ni fydd eich rheolwr yn gallu sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith, a byddai ganddo/ganddi’r hawl i’ch gwahardd rhag gwneud y gwaith sy’n arwain at y risg.

Bydd eich rhesymau dros beidio â mynychu yn cael eu hystyried, ac efallai y cysylltir ag Adnoddau Dynol am gyngor pellach, oherwydd gallai arwain at gamau disgyblu.