Eich apwyntiad

Diweddarwyd y dudalen: 18/11/2020

Yn ystod yr apwyntiad

Bydd hanes meddygol yn cael ei nodi ac esboniad o’r canlyniadau yn cael ei roi. Gofynnir am eich caniatâd fel y gall cliriad iechyd ar gyfer eich rôl gael ei anfon at eich rheolwr. Yn dibynnu ar ganlyniadau'r prawf, efallai y bydd y nyrs yn eich atgyfeirio i weld ein Meddyg am brofion/barn pellach.

I sicrhau bod eich canlyniadau mor gywir â phosibl:

  • Peidiwch â gweithio mewn mannau sydd â lefelau uchel o sŵn am 8 awr cyn yr apwyntiad.
  • Os ydych yn gwisgo sbectol, dewch â’ch sbectol fwyaf diweddar gyda chi (gan gynnwys sbectol darllen).
  • Os ydych yn ysmygu – rydym yn argymell na ddylech ysmygu ar ddiwrnod eich apwyntiad.
  • Peidiwch ag yfed alcohol ar ddiwrnod eich apwyntiad.
  • Os ydych yn dioddef o asthma, dywedwch wrth y nyrs pryd wnaethoch chi ddefnyddio eich anadlydd ddiwethaf.
  • Peidiwch â rhuthro neu redeg i’ch apwyntiad.
  • Dylech osgoi defnyddio gwyntiedydd a ragnodwyd am 4 awr o leiaf cyn y prawf.

Ar ôl yr apwyntiad

Bydd eich rheolwr yn derbyn Canlyniad eich adroddiad asesu. Bydd yn nodi a oes angen archwiliad. Efallai y cânt wybod hefyd os oes angen unrhyw addasiadau e.e. cyfyngu ar y cysylltiad a wneir o offer sy’n dirgrynu.

Cyfrinachedd

Dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd eich adroddiad/llythyr clirio iechyd yn cael ei anfon atoch chi, eich rheolwr llinell a’r tîm Presenoldeb Adnoddau Dynol. Bydd staff Iechyd Galwedigaethol yn cadw at brosesau cyfrinachedd llym drwy’r amser.

Bydd eich cofnodion Iechyd Galwedigaethol cyfrinachol yn cael eu cadw’r un mor gyfrinachol â’ch cofnodion ysbyty/meddyg teulu yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998. Ni fydd eich cofnod Iechyd Galwedigaethol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un tu allan i’r uned Iechyd Galwedigaethol heb eich caniatâd.

Os hoffech gael mynediad i’ch cofnodion Iechyd Galwedigaethol, edrychwch ar Weithdrefn Gyfrinachedd yr Uned Iechyd Galwedigaethol ar y fewnrwyd neu ffoniwch yr Uned Iechyd Galwedigaethol ar 01267 246060 i ofyn am gopi.

Heb Fynychu a Chyrraedd yn Hwyr

Sylwer, mae angen Rhybudd o 5 Diwrnod Gwaith arnom os nad ydych yn gallu mynychu. Os na fyddwch yn mynychu neu heb roi digon o rybudd, mae’n bosibl y bydd eich rheolwr yn dal i orfod talu. Os byddwch dros 10 munud yn hwyr ar gyfer eich apwyntiad, ni allwn warantu y bydd gweithiwr Iechyd Galwedigaethol proffesiynol yn dal i allu eich gweld, serch hynny, efallai y bydd eich rheolwr yn dal i orfod talu.