Dirgrynu llaw-braich

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Mae Syndrom Dirgrynu Llaw a Braich neu HAVS yn gyflwr sydd â’r potensial i effeithio ar unrhyw weithiwr sy’n defnyddio offer peiriannol naill ai â llaw neu ei dywys â llaw, fel rhan allweddol o’u gwaith. Gall gweithwyr y mae eu dwylo’n dod i gysylltiad rheolaidd â dirgrynu uchel ddioddef sawl math o effeithiau i’r breichiau a’r dwylo, gan gynnwys cylchrediad gwaed diffygiol a niwed i nerfau a chyhyrau. Mae’n teimlo fel pinnau bach neu ddiffyg teimlad yn y bysedd neu lle mae’r bysedd yn gwynnu.

Mae’r effeithiau yn cynyddu, ac wrth i amser fynd yn ei flaen, gall y pyliau fod yn boenus dros ben a cholli medrusrwydd, gan arwain at fod yn lletchwith a llai o rym gafael. Mewn achosion difrifol, gall cylchrediad y gwaed gael ei amharu’n barhaol gyda’r bysedd yn edrych yn ddulas.

Ffynonellau posibl o ddirgrynu uchel yn y gweithle:

  • Llifiau cadwyn
  • Peiriannau strimio neu dorri porfa
  • Chwythwyr a pheiriannau tocio cloddiau
  • Peiriannau llifanu a pheiriannau sy’n troi
  • Morthwylion trydanol
  • Torwyr Concrit
  • Peiriannau Sandio
  • Driliau (cyfnod byr yn unig)
  • Peiriannau turnio coed a phren (cyfnod byr yn unig)
  • Offer metel ergydiol
  • Offer ergydiol a ddefnyddir mewn gwaith maen

Ein nod yw sicrhau na fydd unrhyw weithiwr yn agored i lefelau dirgrynu annerbyniol neu afresymol yn y gwaith drwy sicrhau bod yna fesurau diogelu ar waith. Rhaid i arolygu iechyd gael ei chynnal ar weithwyr sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â dirgrynu uwchlaw’r EAV (2.5m/s2), ond mae hefyd yn ofynnol i’r rheini sy’n dod i gysylltiad â dirgrynu o dan yr EAV os ydynt yn wynebu mwy o risg e.e. os ydynt yn rhoi gwybod bod diagnosis o HAVS arnynt yn barod neu unrhyw gyflwr arall sy’n effeithio ar y cylchrediad neu ddargludiad nerfau fel clefyd y siwgr, clefyd Raynaud’s (cyflwr cyffredin sy’n effeithio ar y cyflenwad gwaed i rannau penodol o’r corff, gan amlaf y bysedd a’r bysedd traed),CTS etc.

Mae Arolygu Iechyd HAVS wedi cael ei rannu i’r haenau canlynol a rhoddir hyfforddiant a gwybodaeth i’r holl weithwyr fel yr amlinellir isod:

Dyma’r asesiad cychwynnol, a bydd yn cael ei gynnal ar weithwyr sydd wedi’u hadnabod fel y rhai sydd mewn peryg o ddod i gysylltiad â dirgrynu hyd yn oed os yw o dan yr EAV o 2.5m/s2.

Mae’n holiadur byr sy’n cael ei ddefnyddio fel cam cyntaf ar gyfer pobl sy’n symud i swyddi lle byddant yn dod i gysylltiad â dirgrynu. Bydd yr ymatebion i’r holiadur yn dangos a oes angen eu hatgyfeirio i Haen 4 am asesiad iechyd HAVS gyda Meddyg Iechyd Galwedigaethol.

Dyma’r asesiad blynyddol i’w gynnal gan y Nyrs Iechyd Galwedigaethol ar gyfer gweithwyr sy’n dod i gysylltiad â dirgrynu ar lefel yr EAV neu’n uwch ac ar gyfer y rheini sydd o dan yr EAV sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai sydd mewn mwy o risg o gael HAVS. Mae'n holiadur byr i weld a oes angen atgyfeirio’r gweithiwr at Haen 4 am asesiad iechyd HAVS gyda'r Meddyg Iechyd Galwedigaethol.

Mae’n cynnwys asesiad iechyd HAVS gan berson cymwys (h.y. Nyrs Iechyd Galwedigaethol) bob tair flwyddyn neu yn ôl yr angen. Mae’n holiadur manylach gyda rhai profion sylfaenol o brofi medrusrwydd a grym gafael. Os yw’r asesiad yn dangos bod HAVS, o bosib, ar y gweithiwr, bydd Haen 4 yn gymwys, a bydd y gweithiwr yn cael ei atgyfeirio i’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol.

Holiadur manwl ac ystod o brofion penodol i roi diagnosis ffurfiol, a chaiff ei gynnal gan y Meddyg Iechyd Galwedigaethol, a fydd yn eich cynghori ynglŷn ag addasrwydd y gweithiwr i weithio.

Mae hyn yn ddewisol, ac mae’n cynnwys atgyfeirio gweithiwr am brofion HAVS mwy cynhwysfawr mewn cyfleuster arbenigol (e.e. Labordy Iechyd a Diogelwch yn Buxton). Gallai’r canlyniadau helpu’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol i asesu addasrwydd i weithio.

Mae hyfforddiant yn cael ei roi gan Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch, yr Ymgynghorydd Datblygu Adrannol a’r Swyddog Datblygu Adrannol.

Dylai gweithwyr newydd fod yn ymwybodol o’r risgiau o ddirgrynu cyn dod i gysylltiad ag ef am y tro cyntaf, neu o leiaf o fewn yr wythnos gyntaf o gyflogaeth. At hynny, dylai pob gweithiwr gael hyfforddiant priodol i ddefnyddio’r offer. Dylai hyn gynnwys ymarfer rheolaidd sydd wedi’i oruchwylio i adnabod arferion gwaith a allai gynyddu risg fel osgo gwael, gafael mewn offer yn rhy dynn etc.

Dylai pob gweithiwr sy’n agored i ddirgrynu dderbyn hyfforddiant, gan gynnwys:  

  • Effeithiau iechyd dirgrynu llaw a braich;
  • Ffynonellau dirgrynu llaw a braich;
  • P’un a ydynt mewn perygl, ac os felly, a yw’r risg yn uchel (uwchlaw’r ELV), yn ganolig (uwchlaw’r EAV) neu’n isel;
  • Y ffactorau risg (e.e. lefelau’r dirgrynu, pa mor hir y mae’n agored i hyn yn ddyddiol, pa mor aml y mae’n agored i hyn dros wythnosau, misoedd a blynyddoedd);
  • Sut i gydnabod symptomau a dweud wrth rywun amdanynt;
  • Yr angen am arolygu iechyd, sut y gall eu helpu i barhau’n gymwys i weithio, sut y caiff ei ddarparu, a beth fydd yn digwydd i’r canlyniadau;
  • Ffyrdd o leihau risg, gan gynnwys:
    • Newidiadau i arferion gweithio i leihau dod i gysylltiad â dirgrynu;
    • Technegau cywir ar gyfer defnyddio offer, grym gafael etc.;
    • Cynnal cylchrediad gwaed da yn y gwaith drwy gadw’n gynnes a rhwbio bysedd, ac os yn bosibl, lleihau neu roi’r gorau i ysmygu.

Sylwer: Os yw unigolyn yn rhoi gwybod am unrhyw symptomau neu arwyddion o HAVS ar unrhyw adeg rhwng Haenau 1-3, byddant yn cael eu hatgyfeirio am asesiad iechyd Haen 4 gyda’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol. Bydd yr holl gofnodion unigol yn cael eu cadw’n gyfrinachol, a bydd adroddiad blynyddol anhysbys ar gael i bobl gweithiwr sydd wedi mynychu sesiwn arolygu iechyd ac unrhyw asesiadau Haen 4 gyda’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol. Lle bo’n briodol, bydd canlyniadau ar gyfer grwpiau o weithwyr er mwyn dangos effeithiolrwydd dulliau rheoli dirgrynu.