Asesiad Straen Unigol (ASU)

Diweddarwyd y dudalen: 17/10/2023

Mae'r Asesiad Straen Unigol yn cael ei ddefnyddio i adnabod sbardunau straen a helpu i gefnogi gweithwyr yn y gweithle.  

Dyma offeryn rhagweithiol y gellid ei ddefnyddio fel: 

  • Rhan o oruchwyliaeth 
  • Rhan o sesiynau arfarnu
  • Rhan o gyfarfodydd wyneb yn wyneb 

Dyma'r amserau eraill y gellir ei ddefnyddio: 

  • lle bo mater yn peri pryder (e.e. absenoldeb salwch, neu os oes arwyddion amlwg o straen) 
  • yn ystod cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith a/neu gyfarfodydd cefnogi gweithwyr 
  • lle bo newid mawr yn yr adran/maes gwaith/tîm  

Mae'r asesiad straen yn ymdrin â 6 maes allweddol yn seiliedig ar Safonau Rheoli yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch straen sy'n gysylltiedig â gwaith y nodir eu bod yn bwysig, a hynny er mwyn creu amgylchedd gwaith da ar gyfer yr holl weithwyr. Amlinellir y chwe maes hyn isod:  

  • Ydyn ni'n rhoi gofynion digonol a chyraeddadwy i chi mewn perthynas â'r oriau gwaith y cytunwyd arnynt?; 
  • Ydy eich sgiliau a'ch galluoedd yn cyfateb â gofynion y swydd?; 
  • Mae swyddi'n cael eu llunio yn unol â'ch galluoedd; a 
  • Rhoddir sylw i unrhyw bryderon ynghylch eich amgylchedd gwaith. 
  • Rydym yn darparu gwybodaeth amserol ar gyfer gweithwyr er mwyn eu galluogi i ddeall y rhesymau dros y newidiadau arfaethedig; 
  • Rydym yn sicrhau yr ymgynghorir digon â chi ynghylch newidiadau ac yn darparu cyfleoedd i chi ddylanwadu ar gynigion; 
  • Rydych yn ymwybodol o effaith debygol unrhyw newidiadau i'ch swydd. Os oes angen, rydych yn cael hyfforddiant er mwyn cefnogi unrhyw newidiadau yn eich swydd; 
  • Rydych yn ymwybodol o'r amserlen ar gyfer newidiadau; 
  • Mae gennych fynediad at gymorth perthnasol yn ystod y newidiadau. 
  • Rydym yn sicrhau, cyn belled â phosibl, fod y gwahanol ofynion rydym yn eu rhoi arnoch yn addas; 
  • Rydym yn rhoi gwybodaeth i'ch galluogi i ddeall eich rôl a'ch cyfrifoldebau;
  • Rydym yn sicrhau, cyn belled â phosibl, fod y gofynion rydym yn eu rhoi arnoch yn glir a bod systemau ar waith i'ch galluogi i godi pryderon am unrhyw ansicrwydd neu wrthdaro sydd gennych o ran eich rolau a'ch cyfrifoldebau. 
  • Rydym yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn y gwaith er mwyn osgoi gwrthdaro a sicrhau tegwch; 
  • Rydych yn rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch gwaith  
  • Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i atal ymddygiad annerbyniol neu ei ddatrys;
  • Mae systemau ar waith i alluogi ac annog rheolwyr i fynd i'r afael ag ymddygiad annerbyniol 
  • Mae systemau ar waith i'ch galluogi a'ch annog chi i roi gwybod am ymddygiad annerbyniol. 
  • Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau i roi cymorth priodol ichi;  
  • Mae systemau ar waith i alluogi ac annog rheolwyr i gefnogi eu staff; 
  • Mae systemau ar waith i alluogi ac annog gweithwyr i gefnogi eu cydweithwyr; 
  • Rydych yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut a phryd i gael gafael arno; 
  • Rydych yn gwybod sut i ddefnyddio'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich swydd; ac 
  • Rydych yn cael adborth rheolaidd ac adeiladol. 
  • Lle bo'n bosibl, oes gennych reolaeth dros gyflymder eich gwaith?; 
  • Ydych chi'n cael eich annog i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch hunangymhelliant i wneud eich gwaith?; 
  • Lle bo'n bosibl, ydych chi'n cael eich annog i ddatblygu sgiliau newydd i'ch helpu i gyflawni darnau newydd a heriol o waith?; 
  • Rydym yn eich annog i ddatblygu eich sgiliau;  
  • Gallwch ddewis pryd rydych yn cael egwylion; ac
  • Ymgynghorir â chi ynghylch eich patrymau gwaith. 

Iechyd a Llesiant