Bod Yn Gorffornol Eginol

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Beth yw gweithgarwch corfforol? 

Gweithgarwch corfforol yw unrhyw symudiad corfforol sy'n gofyn am egni ac sy'n cael ei greu gan y cyhyrau sgerbydol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth, gan gynnwys cerdded, garddio, gwthio coetsh babi yn gyflym, dringo'r grisiau, chwarae pêl-droed neu ddawnsio gyda'r nos hyd yn oed. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwneud gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd, yn aml heb feddwl amdano.  

Pam y mae hyn yn bwysig? 

Mae gweithgarwch corfforol yn cynnig llawer o fanteision i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Gall cadw eich hun yn gorfforol egnïol leihau eich risg o ddal sawl salwch mawr, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, diabetes math 2 a rhai canserau, yn ogystal â gostwng eich risg o farwolaeth cyn pryd. Mae gweithgarwch corfforol hefyd yn bwysig i gryfhau eich esgyrn a'ch cyhyrau, gall arafu'r broses o golli cryfder yr esgyrn a helpu i gynnal màs a chryfder eich cyhyrau wrth ichi heneiddio. 

Gall gweithgarwch corfforol hefyd helpu i wella eich iechyd meddwl a'ch hwyliau trwy ryddhau cemegion, gan wneud i chi ymlacio mwy, gwella hunan-barch, eich helpu i ymdopi â hwyliau isel, straen a lleihau symptomau pryder ac iselder. Mae wedi cael ei brofi bod gweithgarwch corfforol hefyd yn helpu i gadw eich sgiliau meddwl, dysgu a barnu yn finiog wrth i chi heneiddio gan fod y proteinau a'r cemegion sy'n cael eu rhyddhau trwy ysgogi'r corff yn helpu i wella strwythur a swyddogaeth eich ymennydd.  

Faint o weithgarwch corfforol ddylwn i fod yn ei wneud?  

Mae canllawiau gweithgarwch corfforol cyfredol y Prif Swyddogion Meddygol yn y DU yn nodi y dylai oedolion, rhwng 19 a 64 oed, fod yn egnïol bob dydd ac y dylent wneud naill ai: 

  • o leiaf 150 munud o weithgaredd aerobig cymedrol bob wythnos, megis beicio neu gerdded yn gyflym, ac  
  • ymarferion cryfder dau ddiwrnod neu ragor yr wythnos sy'n gweithio pob un o brif grwpiau'r cyhyrau (ysgwyddau, cefn, breichiau, brest, abdomen, cluniau, coesau) 

NEU  

  • 75 munud o weithgaredd aerobig egnïol, megis rhedeg, nofio neu chwarae pêl-droed, ac  
  • ymarferion cryfder dau ddiwrnod neu ragor yr wythnos sy'n gweithio pob un o brif grwpiau'r cyhyrau (ysgwyddau, cefn, breichiau, brest, abdomen, cluniau, coesau) 

Dylai oedolion hefyd leihau faint o amser y maent yn llonydd, megis eistedd, am gyfnodau estynedig. Mae'r canllawiau bellach yn tynnu sylw at y manteision ychwanegol o wneud gweithgarwch corfforol er mwyn gwella cydbwysedd a hyblygrwydd oedolion hŷn. Bydd ymarferion sy'n gwella cydbwysedd, cydsymud a chryfder y coesau yn helpu i gynnal a gwella cryfder y cyhyrau a lleihau'r risg o gwympo wrth i ni heneiddio. Gall gwella hyblygrwydd leihau doluriau a phoenau, gwella eich ystum a'ch helpu i barhau i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd.  

Sut y gall yr Awdurdod fy helpu i gyflawni hyn?  

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, edrychwch ar y wybodaeth isod am sut y gall Cyngor Sir Caerfyrddin helpu i'ch cefnogi chi i ddod yn fwy egnïol yn gorfforol. 

Defnyddiwch ein cyfleusterau hamdden gwych 

Beth am roi cynnig ar fynd i'ch canolfan hamdden Actif Sir Gâr leol i helpu i gyflawni ychydig o'ch gweithgarwch corfforol argymelledig? Mae 7 canolfan hamdden i ddewis o'u plith yn Sir Gaerfyrddin ac mae ystod eang o weithgareddau ar gael, mae rhywbeth at ddant pawb! Mae ein cyfleusterau'n cynnwys campfeydd â chyfarpar llawn, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio, dosbarthiadau dŵr a llogi cyrtiau badminton a sboncen. Fel aelod o staff, byddwch hefyd yn cael manteisio ar ostyngiad corfforaethol ar eich aelodaeth Actif. 

Ymunwch â grwpiau iechyd a llesiant yn yr Awdurdod 

Mae ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant wedi sefydlu sawl grŵp, gan gynnwys grwpiau cerdded a rhedeg ar gyfer staff. I gael rhagor o wybodaeth am ble mae'r rhain a phryd y cânt eu cynnal, gweler ein tudalennau Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant a Digwyddiadau a Gweithgareddau.  

Gwnewch y gorau o Sir Gaerfyrddin   

Rydym yn ffodus i fyw mewn sir sy'n llawn cefn gwlad ac arfordiroedd hardd. Beth am fynd allan i redeg, cerdded neu feicio a gwneud y gorau o'r hyn sydd gan y sir i'w gynnig? Dyma rai o'r lleoedd gwych i ymweld â nhw yn Sir Gaerfyrddin:  

  1. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 
  2. Parc Gwledig Pen-bre 
  3. Parc Arfordirol y Mileniwm 
  4. Castell Carreg Cennen 
  5. Cartref Dylan Thomas 
  6. Castell Llansteffan 
  7. Castell Cydweli 
  8. Llyn y Fan Fach 
  9. Parc Gwledig Llyn Llech Owain 

Mae gan Darganfod Sir Gâr hefyd ganllawiau gwych ynghylch y lleoedd gorau i gerdded ac archwilio felly beth am roi cip arnynt! 

 

Iechyd a Llesiant