Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Trosolwg 

Prif nod Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw adnabod arwyddion afiechyd meddwl posibl a darparu cymorth cychwynnol i staff sydd ei angen, yn yr un modd ag y mae Swyddog Cymorth Cyntaf Corfforol yn ymateb i anaf corfforol neu salwch. Bydd Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cael cefnogaeth i hyrwyddo diwylliant gweithle lle mae staff yn rhydd i drafod materion iechyd meddwl yn agored a theimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr wrth wneud hynny. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â rôl Cynorthwyydd Cyntaf Iechyd Meddwl, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Lles - iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â rôl Cynorthwyydd Cyntaf Iechyd Meddwl, cysylltwch â'r Tîm Iechyd a Lles - iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk. 

Rôl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (.PDF)

Fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn yr Awdurdod, byddwch yn: 

  • eiriolwr angerddol dros ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn yr awdurdod.
  • meddu ar lefel uchel o empathi a sensitifrwydd.
  • gallu aros yn ddigynnwrf mewn sefyllfa a allai fod yn anodd, megis delio â chydweithiwr sy'n drallodus neu'n ofidus. 
  • dangos sgiliau cadarn o ran trefnu a rheoli amser; gallu cydbwyso'ch gwaith arferol â'ch rôl fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
  • meddu ar lefel uchel o uniondeb, er enghraifft trwy ddeall pwysigrwydd cadw cyfrinachedd.

 

  • Adnabod yr arwyddion cynnar o afiechyd meddwl posibl.
  • Cael sgwrs â'r gweithiwr.
  • Cyfeirio'r gweithiwr at gefnogaeth briodol yn ôl yr angen.
  • Delio ag argyfwng - Mae Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'u hyfforddi i ymateb yn briodol i argyfwng.
  • Hyrwyddo Iechyd Meddwl Da - Bydd y Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ei gyflwyno ei hun i'r staff.

Fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn yr Awdurdod, ni ddylech: 

  • Geisio gwneud diagnosis neu drin materion iechyd meddwl
  • Tarfu ar breifatrwydd rhywun
  • Datgelu gwybodaeth bersonol
  • Gadael i’ch rôl fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl effeithio ar eich ymrwymiadau a'ch cyfrifoldebau gwaith cyfredol
  • dealltwriaeth o iechyd meddwl a'r ffactorau a all effeithio ar lesiant meddyliol.
  • sgiliau ymarferol i sylwi ar arwyddion o faterion iechyd meddwl a’r ffactorau sy’n sbarduno hyn.
  • hyder i gamu i mewn, rhoi tawelwch meddwl a chefnogi person mewn trallod.
  • gwell sgiliau rhyngbersonol fel gwrando anfeirniadol.
  • gwybodaeth i arwain cydweithwyr a'u cyfeirio at gymorth pellach, p'un ai trwy adnoddau hunangymorth, gwasanaethau mewnol fel Iechyd Galwedigaethol, neu'r GIG.

Iechyd a Llesiant