Dyspracsia

Diweddarwyd y dudalen: 13/03/2024

Beth yw Dyspracsia?

Mae dyspracsia, a elwir hefyd yn anhwylder yn natblygiad y cydsymud, yn anhwylder cyffredin sy'n effeithio ar symud a chydsymud. Nid yw dyspracsia yn effeithio ar eich deallusrwydd. Gall effeithio ar eich sgiliau cydsymud – megis tasgau sy'n gofyn am gydbwysedd, cymryd rhan mewn chwaraeon neu ddysgu gyrru car. Gall dyspracsia hefyd effeithio ar eich sgiliau echddygol manwl, megis ysgrifennu neu ddefnyddio gwrthrychau bach.

Symptomau dyspracsia

Gall symptomau dyspracsia amrywio rhwng unigolion a gallant newid dros amser. Efallai y byddwch yn cael tasgau arferol yn anodd.

Os oes gennych ddyspracsia gall effeithio ar:

  • eich cydsymud, eich cydbwysedd a'ch symudiad
  • sut rydych chi'n dysgu sgiliau newydd, yn meddwl, ac yn cofio gwybodaeth yn y gwaith a gartref
  • eich sgiliau byw bob dydd, fel gwisgo neu baratoi prydau bwyd
  • eich gallu i ysgrifennu, teipio, tynnu llun a chydio mewn gwrthrychau bach
  • sut rydych chi'n ymddwyn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
  • sut rydych chi'n delio â'ch emosiynau
  • sgiliau rheoli amser, cynllunio a threfniadaeth bersonol

Strategaethau ar gyfer y gweithle.

  • Rheoli amser: Cyn i chi ddechrau gweithio, cynlluniwch yr hyn y mae rhaid i chi ei wneud y diwrnod hwnnw a blaenoriaethwch eich tasgau. Defnyddiwch gymhorthion gweledol fel mapiau meddwl, siartiau llif, a diagramau corryn. Gofynnwch i'ch cyflogwr eich helpu i gynllunio a blaenoriaethu ac ar yr un pryd gwnewch yn glir (gyda thact!) y byddai'n well gennych pe na bai'n 'hofran uwch eich pen' a'ch bod yn ei chael hi'n anodd cael eich rhoi dan bwysau. Gofynnwch i'ch cyflogwr roi digon o rybudd ymlaen llaw i chi o ddyddiadau cau.
  • Trefniadaeth: Trefnwch eich llwyth gwaith yn bentyrrau brys a phentyrrau nad ydynt yn rhai brys. Torrwch dasgau a phrosiectau i lawr yn ddarnau y gallwch ddygymod â nhw. Meddyliwch am brosiectau mawr fel cyfres o dasgau bach gyda dechrau a diwedd. Gwobrwywch eich hun pan fyddwch wedi gorffen tasg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd seibiannau rheolaidd i wneud y mwyaf o'ch cynhyrchiant a'ch gallu i ganolbwyntio.
  • Cyfarwyddiadau: Ysgrifennwch gyfarwyddiadau'n glir a'u cadw'n ddiogel er mwyn cyfeirio atynt. Gofynnwch i'ch cyflogwr gymryd amser i egluro'r cyfarwyddiadau os oes angen. Mewn cyfarfodydd, defnyddiwch recordydd tâp i'ch helpu i gofio'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud.
  • Gweithredu peiriannau swyddfa: Pan fyddwch yn defnyddio cyfrifiadur, gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd mewn ystum cyfforddus. Efallai y bydd yn bosibl defnyddio bysellfwrdd a llygoden ergonomig. Gall arafu'r llygoden helpu, fel y gall defnyddio llwybrau byr ar y bysellfwrdd os ydych chi'n ei chael hi'n anodd iawn trin y llygoden. Cadwch gyfarwyddiadau clir ar sut i weithredu llungopiwyr, peiriannau ffacs, argraffwyr ac ati. Rhowch y cyfarwyddiadau i fyny ar bwys y peiriannau hyn – yna gallant fod yn help i bobl eraill gofio hefyd.
  • Gwaith ysgrifenedig: Defnyddiwch wiriadau gramadeg a sillafu eich prosesydd geiriau ac ystyriwch ofyn i rywun brawf-ddarllen eich gwaith. Os yw'n briodol, gofynnwch am feddalwedd adnabod lleferydd a rhaglenni prawf-ddarllen. Defnyddiwch dempledi. Efallai y bydd eich cyflogwr yn barod i'ch anfon ar gwrs i wella'ch sgiliau ysgrifennu.
  • Ymdopi â phethau sy'n tynnu eich sylw: Gallech ystyried y posibilrwydd o weithio amser hyblyg - dod i mewn yn gynnar neu adael yn hwyr. Gall rhaniad o amgylch eich desg neu wisgo clustffonau hefyd helpu i leihau pethau sy'n tynnu sylw.
  • Agwedd: Ceisiwch fod mor ddigynnwrf a chadarnhaol â phosibl. Efallai y byddwch am ystyried defnyddio ymarferion sylfaenol i ymlacio'r meddwl a'r corff i'ch helpu i ostwng eich lefelau straen a thrwy hynny wella eich perfformiad yn gyffredinol. Gall hyfforddiant pendantrwydd eich helpu i gyfathrebu'n fwy effeithiol yn y gwaith. Mae'n bwysig dangos i'ch cyflogwr bod gennych lawer o gryfderau; a'ch bod am wneud gwaith da ac y gallwch gyflawni hyn, o gael y gefnogaeth gywir.

 

Dolenni ar gyfer Dyspracsia

Dyspraxia in adults - NHS (www.nhs.uk)

Dyspraxia at a glance – Dyspraxia Foundation

Diagnosis – Dyspraxia Foundation

Employment – Dyspraxia Foundation

Iechyd a Llesiant