Cwestiynau Cyffredin

Diweddarwyd y dudalen: 24/05/2023

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ganlynol yn ateb rhai o'ch ymholiadau, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost atynt i health&wellbeing@carmarthenshire.gov.uk.

O ystyried natur y rôl, nid oes ymrwymiad amser penodol yn gysylltiedig â hyn. Efallai y bydd angen i chi ddarparu cymorth cyntaf iechyd meddwl i gydweithiwr mewn angen ar unrhyw adeg, boed yn unigolyn sy'n dod atoch am gymorth neu'n gydweithiwr rydych yn pryderu amdano. Efallai y bydd adegau pan nad oes angen i chi ddarparu cymorth cyntaf am ychydig fisoedd, ond gall fod cyfnodau eraill pan fyddwch yn darparu cymorth bob ychydig wythnosau. 

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys tua 5 awr o ddysgu hunangyfeiriedig drwy fodiwlau ar-lein a dwy weminar fyw 3 awr. Dylech ganiatáu cyfanswm o 11 awr ar gyfer y rhaglen hyfforddi, sy'n debygol o gael ei chynnal dros o leiaf bythefnos. Bydd disgwyl i bob Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl fynychu sesiynau cymorth bob 6-8 wythnos gyda Chydgysylltydd y Rhaglen. 

Nid yw'n hanfodol bod gennych gefndir ym maes iechyd meddwl na hyfforddiant blaenorol i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, byddem yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu un o'n sesiynau hyfforddiant iechyd meddwl sydd ar gael (Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl/Rheoli Iechyd Meddwl yn y Gweithle) cyn ystyried y rôl. Bydd hyn yn rhoi trosolwg pwysig o rai o'r prif gyflyrau iechyd meddwl, eu harwyddion a'u symptomau a phwysigrwydd iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle.  

Er mwyn darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn effeithiol i gydweithiwr mewn angen, mae'n bwysig eich bod yn rhywun sy'n teimlo'n hyderus i gefnogi unigolyn yn ystod argyfwng iechyd meddwl neu wrth brofi trallod emosiynol difrifol. Dylech fod yn emosiynol ddeallus, yn wydn ac yn gyfathrebwr rhagorol. Byddwch yn cael eich hyfforddi i asesu sefyllfa, rhoi cymorth, gwrando mewn ffordd anfeirniadol a chyfeirio unigolyn yn briodol at gymorth pellach, ond dylai'r rhain fod yn sgiliau rydych eisoes yn teimlo y byddwch yn eu dysgu'n gyflym. 

Mae hefyd yn bwysig bod gennych ddiddordeb brwd mewn iechyd meddwl ac y byddech yn teimlo'n angerddol am fod yn eiriolwr dros iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle. Dylech deimlo'n gryf am bwysigrwydd cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chyfrannu at ymdrechion yr Awdurdod i leihau'r stigma ynghylch iechyd meddwl. 

Bydd sesiwn briffio gyda Chydgysylltydd y Rhaglen ar gael cyn ymgymryd â'r hyfforddiant, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl. Gall hyn hefyd eich helpu i benderfynu a yw’n addas i chi. 

Os byddwch yn penderfynu nad yw'r rôl hon yn addas i chi ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl yr hyfforddiant, fe'ch cynghorir i gysylltu â Chydgysylltydd y Rhaglen i drafod hyn ymhellach. Rôl wirfoddol yw hon, felly os ydych yn teimlo nad yw'n addas i chi, byddwch yn gallu rhoi'r gorau i'ch dyletswyddau. Fodd bynnag, byddem yn eich annog yn gryf i feddwl yn ofalus am y rôl cyn cael yr hyfforddiant. 

Pan fyddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion a fydd yn eich cymhwyso am 3 blynedd. Yna bydd angen cael hyfforddiant gloywi. 

Os nad ydych chi a'ch rheolwr yn cytuno ynghylch a ydych yn addas ar gyfer y rôl, fe'ch cynghorir i gysylltu â Chydgysylltydd y Rhaglen i drafod eich addasrwydd ymhellach. Os oes cryn amheuaeth ynghylch a yw'r rôl yn addas i chi, efallai y penderfynir gwrthod eich cais. Ceisiwch beidio â digalonni os bydd hyn yn digwydd. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ystyried eich llesiant chi a llesiant gweithwyr eraill. 

Iechyd a Llesiant