Archwiliad Hunan-iechyd

Diweddarwyd y dudalen: 08/12/2020

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio ystod o fesuriadau, profion ac archwiliadau i asesu llawer o wahanol agweddau ar ein hiechyd a'n llesiant. Mae'n bosibl eich bod chi'n gyfarwydd â rhai ohonynt, ac efallai eich bod wedi cael yr archwiliadau hyn eich hun gan feddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.  

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i chi ynglŷn â rhai o'r archwiliadau iechyd allweddol y gallwch eu gwneud eich hun, gan gynnwys sut y mae cynnal y profion hyn, sut y mae dehongli'ch canlyniadau, a chymorth a gwybodaeth bellach os oes angen. 

Gallai cadw llygad ar y mesurau hyn unwaith y flwyddyn (oni bai eich bod wedi cael eich cynghori fel arall gan weithiwr iechyd proffesiynol) eich helpu i nodi a chymryd camau cynnar er mwyn lleihau risgiau cyflyrau iechyd megis clefyd cardiofasgwlaidd y galon, diabetes, strôc a chanser. 

Mesuriadau corfforol 

Taldra - Sefwch â'ch cefn tuag at y wal gyda'ch sodlau yn erbyn y wal a'ch cefn yn syth. Gan ddefnyddio tâp mesur, dechreuwch o'r llawr a mesur i fyny'r wal hyd nes eich bod yn cyrraedd top eich pen, gan gadw'r tâp yn syth. Mae'n bosibl y byddwch am ofyn i rywun eich helpu i fesur i sicrhau bod y mesuriad yn fwy cywir. 

Pwyso - Ceisiwch ddefnyddio clorian ddibynadwy, un a fyddai'n rhoi'r un wybodaeth pe byddech chi'n pwyso'ch hun ychydig o weithiau dros gyfnod byr. Ceisiwch bwyso eich hun ar yr un amser bob diwrnod. Nid yw pwyso ar ei ben ei hun yn ddangosydd defnyddiol o ran eich iechyd ac felly argymhellir eich bod yn ei ddefnyddio ochr yn ochr â mesuriadau eraill fel cylchedd y canol a chymhareb clun i'r canol. 

Mynegai Màs y Corff - Yn y bôn, mae eich BMI yn mesur eich cymhareb uchder i bwysau. Caiff ei ddefnyddio yn rheolaidd er mwyn gweld a yw pwysau unigolyn yn iach. Pan fyddwch wedi mesur eich taldra a'ch pwysau, gallwch gyfrifo'ch BMI gan ddefnyddio offeryn ar-lein, megis cyfrifiannell BMI y GIG -https://www.nhs.uk/live-well/healthy-weight/bmi-calculator / . Bydd yr offeryn hwn hefyd yn darparu ystod pwysau iach i chi ar gyfer eich taldra. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r siart isod i wirio'ch BMI.  

Er ei fod yn offeryn defnyddiol, ni all y BMI ddweud y gwahaniaeth rhwng gormod o fraster, cyhyrau neu asgwrn, ac nid yw'n rhoi ystyriaeth i oedran, rhywedd na màs cyhyrau ychwaith. Felly dylid ei ddefnyddio ynghyd â mesuriadau eraill fel cylchedd y canol a chymhareb clun i'r canol. 

Cylchedd y Canol - Gan ddefnyddio tâp mesur, mesurwch o amgylch eich canol o'r botwm bol. Unwaith eto, gofynnwch i rywun am help os oes angen. 

Cylchedd ClunDewch o hyd i ben asgwrn eich clun yn fras - mae'n debyg mai hwn fydd rhan letaf eich cluniau.  Rhowch eich bodiau ar y rhan hon ac yna pwyntiwch eich bysedd i lawr. Gan ddefnyddio tâp mesur, mesurwch o flaen eich bysedd tanio o amgylch. 

Cymhareb clun i'r canolDyma fesur arall y gellir ei ddefnyddio i wirio a ydych chi dros eich pwysau ac a yw'r pwysau ychwanegol hynny yn peryglu eich iechyd. Cyfrifir hyn trwy rannu mesuriad eich canol â mesuriad eich clun. Mae'r mesur hwn wedi'i gynllunio i bennu faint o fraster sydd ar eich canol, eich cluniau a'ch pen-ôl. 

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae cymhareb clun i'r canol iach yn 0.9 neu'n llai yn achos dynion a 0.85 neu'n llai yn achos menywod. Yn achos dynion a menywod, gall WHR o 1.0 neu uwch ddangos risg uwch ar gyfer rhai cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â phwysau, gan gynnwys clefyd y galon. 

Mae'r siart cymhareb clun i'r canol iach isod yn rhoi syniad da o'r risg i'ch iechyd ar sail eich canlyniad. 

Risg i Iechyd Menywod   Dynion
Isel  0.80 neu'n is  0.95 neu'n is 
Cymedrol 0.81 - 0.85  0.96 - 1.0 
Uchel 0.86 neu'n uwch 1.0 neu'n uwch

Mesur Pwysedd Gwaed  

Mae pwysedd gwaed yn cyfeirio at gryfder eich gwaed yn gwthio yn erbyn ochrau eich rhydwelïau wrth iddo bwmpio o amgylch y corff. Caiff pwysedd gwaed ei fesur gan ddyfais yn dwyn yr enw sffygmomanomedr. Mae'r ddyfais fel arfer yn cynnwys stethosgop, cyff braich, pwmp a deial, er bod dyfeisiau awtomatig sy'n defnyddio synwyryddion ac sydd â sgrin ddigidol hefyd bellach yn cael eu defnyddio'n aml.  

Fel arfer, caiff eich pwysaedd gwaed ei fesur gan weithiwr iechyd proffesiynol, ond yn aml, mae gan unigolion y mae'n ofynnol iddynt fesur eu pwysedd gwaed yn rheolaidd eu monitor digidol eu hunain gartref. Mae gwefan y GIG yn darparu gwybodaeth bellach ynglŷn â monitro pwysedd gwaed gartref. 

Deall eich Canlyniadau  

Mae pwysedd gwaed yn cael ei fesur mewn milimetrau o fercwri (mmHg) ac fe'i rhoddir fel 2 ffigur: 

  • pwysedd systolig - y pwysedd pan fydd eich calon yn gollwng gwaed  
  • pwysau diastolig - y pwysedd pan fydd eich calon yn gorffwys rhwng curiadau  

Gellir defnyddio'r tabl isod fel canllaw:

Pwysedd gwaed   Mesuriadau
Pwysedd gwaed delfrydol 90/60mmHg - 120/80mmHg
Pwysedd gwaed uchel 140/90mmHg neu'n uwch 
Pwysedd gwaed isel  90/60mmHg neu'n is 

Mesur Curiad y Galon 

Gall mesur curiad eich calon wrth orffwys - sawl gwaith mae'ch calon yn curo mewn un munud - roi cipolwg pwysig i chi ar iechyd cyffredinol eich calon. I fesur curiad eich calon, gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffwys (am o leiaf 5-10 munud ymlaen llaw) a chyfrifwch faint o weithiau y mae eich calon yn curo mewn 60 eiliad. Mae'ch arddwrn fel arfer yn lle da i osod eich bys i ddod o hyd i guriad cryf.  

Mae gan yr oedolyn cyffredin gyfradd curiad y galon rhwng 60 - 100bpm wrth orffwys. Po fwyaf heini ydych chi, y lleiaf bydd y gyfradd. Os yw cyfradd curiad eich calon  yn uwch na 120bpm neu'n is na 40bpm wrth orffwys yn gyson, efallai dylech fynd i weld eich meddyg teulu, er ei bod yn bosibl mai dyma yw eich cyfradd arferol.  

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn darparu rhagor o wybodaeth am wirio'ch pwls. 

Pa mor iach yw eich Calon? 

Bydd gwiriad oedran calon y GIG yn nodi oedran eich calon o'i gymharu â'ch oedran go iawn. Rhowch gynnig ar yr offeryn hwn i weld beth yw oedran eich calon, a beth mae hyn yn ei olygu i iechyd eich calon. Bydd angen manylion eich lefelau colesterol diweddaraf arnoch (HDL a LDL). 

Profion Sylfaenol ar gyfer Ffitrwydd, Cydbwysedd a Dygnwch  

Mae cael cydbwysedd da yn bwysig ar gyfer eich iechyd, yn bennaf oherwydd ei fod yn golygu eich bod yn llai tebygol o gwympo, ond yn rhyfeddol, mae cael cydbwysedd da hefyd yn gallu arwain at broblemau iechyd fel dementia yn y dyfodol. 

Prawf cydbwysedd 

  1. Sefwch o flaen cadair neu fwrdd cadarn er diogelwch, ond peidiwch â dal gafael arni/arno.  
  2. Croeswch eich breichiau ar draws eich brest 
  3. Codwch un goes oddi ar y llawr a dechreuwch amseru. 
  4. Gwnewch hyn am gyn hired â phosibl (hyd at 30 eiliad) 
  5. Stopiwch amseru os ydych wedi rhoi eich troed i lawr, datgroesi eich breichiau, neu bwyso mwy na 30 gradd. 
  6. Gwnewch y prawf eto ar y goes arall.  

Yna gellir ailwneud y prawf hwn â'ch llygaid ar gau. 

Gellir defnyddio'r tabl isod i weld sut y mae eich canlyniadau'n cymharu â'r cyfartaledd ar gyfer eich grŵp oedran.  

Oedran (Blynyddoedd) Llygaid ar agor Llygaid ar gau
20-29  29 eiliad  21 eiliad 
30-39  29 eiliad  14 eiliad 
40-49  29 eiliad  10 eiliad 
50-59  28 eiliad  8 eiliad 
60-69  26 eiliad  5 eiliad 
70-79  14 eiliad  4 eiliad

 

Os na fydd eich canlyniad yn unol â'r canlyniadau cyfartalog ar gyfer eich grŵp oedran, gallech roi cynnig ar yr ymarferion cydbwysedd hyn i wella'ch cydbwysedd. Fel arall, gallech chi ymarfer gwneud tasgau syml yn ddyddiol ar un goes e.e. brwsio'ch dannedd. Gall anelu at gynnal pwysau iach hefyd helpu i wella cydbwysedd ac felly lleihau'r risg o gwympo.   

Prawf eistedd - sefyll o gadair 

  1. Eisteddwch ar ganol y gadair. 
  2. Rhowch un llaw ar eich ysgwydd gyferbyn gan groesi eich arddyrnau. 
  3. Rhowch eich traed yn fflat ar y llawr. 
  4. Cadwch eich cefn yn syth a chadwch eich breichiau yn erbyn eich brest.  
  5. Pan fo'r amser yn dechrau, codwch ar eich traed ac yna eisteddwch eto. 
  6. Gwnewch hyn eto am 30 eiliad. 

Cyfrifwch sawl gwaith yr ydych yn codi ar eich traed mewn 30 eiliad. Os ydych dros hanner ffordd i fod ar eich traed pan fo 30 eiliad wedi mynd heibio, mae hyn yn cyfrif. 

Caiff y prawf hwn ei gynnal fel arfer i asesu cryfder coesau a dygnwch oedolion hŷn. Mae modd defnyddio'r tabl isod i weld sut mae eich canlyniadau'n cymharu â'r cyfartaledd. Os nad ydych yn rhan o'r categorïau oedran hyn, gallwch ei ddefnyddio fel canllaw o hyd.  

  Canlyniad Dynion  Canlyniad Menywod  
Oedran Is na'r cyfartaledd Arferol  Uwch na'r cyfartaledd  Is na'r cyfartaledd  Arferol Uwch na'r cyfartaledd 
60-64 < 14  14 i 19 > 19  < 12  12 i 17 > 17 
65-69  < 12  12 i 18 > 18  < 11  11 i 16  > 16 
70-74  < 12  12 i 17  > 17 

< 10 

10 i 15 > 15 
75-79  < 11  11 i 17 > 17 

< 10 

10 i 15 > 15 
80-84  < 10  10 i 15 > 15  < 9  9 i 14  > 14 
85-89  < 8  8 i 14  >14  < 8  8 i 13  > 13 

 

Mae fersiwn arall o'r prawf sefyll-eistedd yn cynnwys yr un symudiad, gan amseru pa mor hir y mae'n ei gymryd i sefyll 10 gwaith. Mae'r fideo hwn gan y BBC yn esbonio'r prawf ymhellach ac yn trafod y canlyniadau y dylech eu disgwyl ar sail eich oedran a'ch rhywedd.  

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud ag Iechyd a Llesiant, ewch i'n tudalennau Cyngor ynghylch Ffordd Iach o Fyw a'n tudalen Cymorth a Chymorth. 

 

Iechyd a Llesiant