Cyngor a chefnogaeth ariannol

Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024

Mae'r cyngor a'r cymorth canlynol wedi'u darparu i'ch helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon eraill nad ydym wedi rhoi sylw iddynt yma, gofynnwch i ni.

Gofynnwch gwestiwn

Nod cynllun Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau yw helpu pobl sy'n anabl neu sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol i aros mewn cyflogaeth. Y llynedd, rhoddodd gymorth personol i 36,000 o bobl ag anableddau a chyflyrau iechyd, sy'n fwy o bobl nag erioed o'r blaen, i wneud eu gwaith. Yn sgil estyniad i'r cynllun, gall pobl anabl bellach elwa ar gymorth ariannol i weithio gartref, cyrraedd y gweithle, a chael cymorth o ran cost cyfarpar arbenigol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais drwy fynd i wefan Gov.uk.

Mae gennym wybodaeth ddefnyddiol ar Addasiadau rhesymol o dan ein hardan Adnoddau Dynol, i gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Adnoddau Dynol/Cydraddoldeb ac Amyriwaeth.

Mae gwefan y Llywodraeth yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ystod eang o faterion ariannol sy'n ymwneud â phensiynau, cyflogaeth a budd-daliadau. Ewch i https://www.gov.uk/coronavirus.

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor Arian wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pa gymorth sydd ar gael a beth y gellir ei wneud i geisio gwrthsefyll y sioc ariannol ar hyn o bryd:

Mae ganddyn nhw hefyd nifer o fideos defnyddiol ar eu sianel Youtube fel:

Gall Cyngor ar Bopeth ddarparu help a gwasanaeth cyfeirio ac mae ganddynt swyddfeydd lleol y gellir cysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy eu gwefan www.carmarthenshire-ca.org.uk.

  • Swyddfa Rhydaman: 01269 592267 
  • Swyddfa Caerfyrddin: 01267 234488
  • Swyddfa Llanelli: 01554 759626

Rydyn ni’n deall sut mae straen a phryderon ariannol yn gallu effeithio ar les cyffredinol ein pobl. Dyna pam y mae Cyngor Sir Gâr yn cydweithio â Salary Finance.

Drwy Salary Finance, gall gweithwyr gael mynediad at y canlynol:

  • Benthyciadau a ad-delir drwy eich cyflog: Benthyciadau ar gyfraddau fforddiadwy gyda chyfradd dderbyn uwch na banciau. Gallai benthyciad ar gyfradd is eich helpu chi i arbed arian drwy dalu dyled ddrutach neu ganiatáu i chi dalu llai o log os oes angen i chi fenthyg arian i brynu car, i wneud gwelliannau i’ch cartref neu i dalu cost annisgwyl. Cyfradd Gynrychioliadol 9.9% APR (sefydlog).
  • Awgrymiadau ariannol: pob math o awgrymiadau a fideos, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer cyllidebu a chynilo er mwyn helpu i wneud arian yn syml.

Rhagor o wybodaeth am Salary Finance



 

Os ydych yn pryderu sut y bydd y coronafeirws yn effeithio ar eich pensiwn, mae gan y gwefannau canlynol wybodaeth a chyngor ar sut y gallant eich cefnogi.

Cronfa Bensiwn Dyfed

Os ydych chi'n aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed a bod gennych unrhyw bryderon ynghylch eich buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), e-bostiwch Pensiynau@sirgar.gov.uk neu ewch i www.cronfabensiwndyfed.org.uk.

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun Pensiwn yr Athrawon, ewch i www.teacherspensions.co.uk.

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Mae'n bosibl y bydd unrhyw un sy'n talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) eisiau lleihau ei daliadau misol yn ystod yr adeg anodd hon. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â CRPayroll@sirgar.gov.uk.

Pension Wise

Mae Pension Wise yn cynnig arweiniad diduedd am ddim trwy apwyntiadau wyneb yn wyneb a ffôn i bobl 50 oed neu hŷn sydd â phensiwn cyfraniadau diffiniedig personol neu weithle sydd eisiau gwneud synnwyr o'u hopsiynau wrth iddynt agosáu at ymddeoliad.

Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau

Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn cynnig arweiniad pensiynau diduedd am ddim ar bensiynau gweithle a phersonol i bawb trwy ei wefan, gwasanaethau ffôn a gwe-sgwrs.

Os ydych yn aelod o'r Cynllun Talebau Gofal Plant ar hyn o bryd, gallwch leihau neu atal eich taliadau am hyd at 12 mis. Os ydych yn dewis atal eich taliadau'n gyfan gwbl, rhaid i chi gofio adfer eich taliadau cyn diwedd y 12 mis neu fel arall ni fyddwch yn aelod o'r cynllun mwyach.

Oherwydd newidiadau i'r ddeddfwriaeth ynghylch Talebau Gofal Plant, os byddwch yn gadael y cynllun, ni fyddwch yn gallu ailymuno. Awgrymir, felly, os ydych yn dymuno lleihau eich taliadau, eich bod yn eu gostwng i £1 y mis am gyfnod o hyd at 12 mis.

Gallwch wneud hyn eich hun drwy eich cyfrif Talebau Gofal Plant ar wefan Edenred. Os cewch unrhyw anawsterau yn gwneud hyn, neu os oes arnoch angen rhagor o gyngor, cysylltwch ag Edenred yn uniongyrchol.

Mae cynilo’n bwysig. Drwy roi arian o’r neilltu’n rheolaidd gallwch ddechrau cynilo, a fydd yn helpu i dalu unrhyw gostau disgwyliedig ac annisgwyl ddaw i’ch rhan mewn bywyd. Rydym yn galw hwn yn glustog cynilion. Mae clustog cynilion hefyd yn meddwl y byddwch yn dibynnu llai ar fenthyciadau. Mae cynilo’n rheolaidd yn dod yn arferiad ond hefyd mae’n arwain at well llesiant meddyliol a chorfforol.

Cyngor cynilo defnyddiol arall:

Iechyd a Llesiant