Awgrymiadau i wneud gweithleoedd yn rhai sy'n deall niwroamrywiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 18/03/2024

  1. Gall addasiadau bach i weithle'r gweithiwr i ddiwallu unrhyw anghenion synhwyraidd fod o gymorth, megis;
  • Cynnig man tawel i gael egwyl, rhoi gwybod am synau uchel disgwyliedig (megis driliau tân), a'r defnydd o glustffonau sy'n canslo sŵn.
  • Ystyried y defnydd o deganau aflonyddu, egwyliau ychwanegol i allu symud a seddau hyblyg.
  1. Defnyddio arddull cyfathrebu clir:

Peidio â defnyddio iaith goeglyd, geiriau teg, a negeseuon lle caiff yr ystyr ei awgrymu ond ddim ei fynegi'n glir.

  • Rhoi cyfarwyddiadau cryno ar lafar ac yn ysgrifenedig ar gyfer tasgau, a rhannu tasgau'n gamau bach.
  • Rhoi gwybod i bobl am ganllawiau ymddygiad yn y gweithle/yn gymdeithasol, a pheidio â chymryd yn ganiataol bod rhywun yn torri'r rheolau neu'n bod yn anghwrtais yn fwriadol.
  • Bod yn garedig, bod yn amyneddgar.

Drwy ddysgu mwy am niwroamrywiaeth, gallwn helpu i leihau'r stigma a'r syniad bod rhywbeth 'o'i le' gyda'r person hwnnw. Gall deall a chroesawu niwroamrywiaeth mewn cymunedau, ysgolion a gweithleoedd eu gwneud yn fwy cynhwysol i'r holl staff.

I gael cyngor pellach ar anabledd ac addasiadau rhesymol, ewch i - http://mewnrwyd/ein-pobl/adnoddau-dynol/cydroddoldeb-ac-amrywiaeth/anabledd-addasiadau-rhesymol/

Dolenni Defnyddiol

Neurodiversity Experts | Neurodiversity in the Workplace | Lexxic

Passionate about Neurodiversity - Genius Within

Home - Remploy

Mynediad at Waith: cael cymorth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd:  Apply for an Access to Work grant - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Iechyd a Llesiant