Her Camau 2023

Diweddarwyd y dudalen: 26/05/2023

Mae'r her camau eleni yn mynd i fod ychydig yn wahanol. Yn hytrach na chael eu hychwanegu at Sianel Teams, gall cyfranogwyr lawrlwytho taenlen Excel.

Bydd yr her yn cael ei chynnal eleni rhwng dydd Llun 15 Mai am 12:00am a dydd Llun 29 Mai am 23:59.

Gallwch gymryd rhan fel unigolyn neu fel grŵp. Ni ddylai grwpiau gynnwys mwy na 10 o bobl.

Bob wythnos bydd y daenlen Excel yn cyfrif cyfartaledd eich camau (gwneir hyn ar gyfer unigolion a grwpiau). Gallwch lawrlwytho'r daflen yma.

Ar ddiwedd y bythefnos, mae yna opsiwn o gyflwyno'ch camau ar gyfartaledd ar Microsoft Forms. Os hoffech gyflwyno eich camau, gallwn weld pa unigolyn neu dîm wnaeth y camau mwyaf a bydd enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.  Mae'r ffurflen ar gael yma. Bydd gennych bythefnos ar ôl i'r her orffen i gyflwyno eich camau.

Fodd bynnag, nid yw cyflwyno eich camau yn orfodol ac os hoffech chi lawrlwytho'r ffurflenni Excel a chadw golwg ar eich camau eich hun at eich defnydd personol, mae hynny hefyd yn opsiwn.

Ni fydd y sianel arferol ar Teams yn cael ei defnyddio. Os nad yw'r Cwestiynau Cyffredin yn ateb eich cwestiynau, gallwch anfon e-bost atom iechydallesiant@sirgar.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin

Yn syml, rydych chi'n lawrlwytho'r daenlen Excel. Os ydych chi'n cymryd rhan fel grŵp, gallai fod yn ddefnyddiol dewis un person i lenwi'r ddogfen a chasglu camau pawb. Nodwch y camau a bydd y ddogfen Excel yn cyfrif y sgôr gyfartalog.

1. Os ydych yn cofrestru fel grŵp, dylai eich grŵp o unigolion fod yn barod cyn 15 Mai. Cofiwch greu sgwrs grŵp er mwyn i chi allu cadw mewn cysylltiad â phobl a chreu enw grŵp hwyl! Gallwch hefyd gymryd rhan fel unigolyn.

2. Lawrlwythwch y dogfennau perthnasol o'r fewnrwyd a'u cadw.

3. Dewiswch un person o'ch grŵp i lenwi'r ddogfen Excel bob wythnos neu os ydych yn unigolyn, llenwch y ffurflen eich hun.

4. Dechreuwch yr her!

5. Ar ddiwedd yr her, os hoffech gyflwyno eich canlyniadau i'r tîm Iechyd a Llesiant a gweld pa mor dda wnaethoch chi, gallwch lenwi'r ffurflen fer hon. Ar ddiwedd mis Mai, bydd y rhai a gyflwynodd eu canlyniadau yn gweld a wnaethon nhw'r nifer uchaf o gamau mewn pythefnos.

6. Nid yw cyflwyno eich canlyniadau yn orfodol a gallwch hefyd ddefnyddio'r ddogfen Excel ar gyfer eich defnydd personol eich hun.

Gallwch gofrestru fel unigolyn. Mae'r broses yr un fath.

10 yw'r nifer fwyaf o bobl sy'n gallu cofrestru fel grŵp.

 

Iechyd a Llesiant